Rhoces a ddywedodd:Dim ond yn y Gogledd ma 'lysh' yn cal ei weld fel alcohol. Lysh i ni yn y de yw rhwbeth
gwych neu
rili da!!!!!
Sain credu newn ni byth gytuno taw naill ai A neu B yw ystyr y gair a dim ond bo ni ddim yn gal ein 'wires' wedi'u croesi (cyfieithu gwael o'r saesneg dwi'n gwbo!) sim lot o wahanieth! Sticwn ni at lysh 'amasin' a sticwch chi at lysh y diod!
Sorted
Cytuno'n llwyr, Rhoces. Mae pawb yn gwbod bod iaith y gogs yn od dros ben - pam defnyddio gair Cymraeg pan wnaiff gair Saesneg y tro? (e.e. fflio am hedfan), ac yn defnyddio geiriau mewn ffordd od (e.e. curo am ennill - "pwy fydd yn curo'r 6 gwlad eleni?" (cwestiwn ar Faes-e) pan mae pawb yn gwybod mai ennill syn gyfystyr â'r S.
win).
At ei gilydd, ni ddeheuwyr sy'n gywir a ni sy â'r iaith buraf...
Felly, a dod 'nol at y pwnc, ta beth ma'r gogs a'r cofis yn ei feddwl, lysh (S.
lush) yw rhywbeth neu rywun arbennig o dda/deniadol
a dyna fe. (diwedd y rant)