Allith rywyn ddeud wrtha fi be di'r ffordd iawn o redeg y ferf 'ariannu'? Yn gwaith, dwi'n aml yn gorfod sgwennu 'this project is funded by' yn gymraeg, a byth yn siwr os mai 'ariannir' ynteu 'ariennir' ydi'r ffurf bresennol amhersonnol gywir.
Rhywbeth i'w wneud efo "i" ar ol y gytsain,
e.e.
canu > cenir
Ond canais nid cenais, dwi'n meddwl, am mai "a" sy'n dilyn yr "n".
A canwch, nid cenwch (er gwaetha hen ganeuon fel "cenwch im gân...")