Rhedeg y ferf

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhedeg y ferf

Postiogan Mr Gasyth » Maw 20 Ion 2004 11:05 am

Allith rywyn ddeud wrtha fi be di'r ffordd iawn o redeg y ferf 'ariannu'? Yn gwaith, dwi'n aml yn gorfod sgwennu 'this project is funded by' yn gymraeg, a byth yn siwr os mai 'ariannir' ynteu 'ariennir' ydi'r ffurf bresennol amhersonnol gywir.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 20 Ion 2004 11:08 am

'Ariennir y prosiect hwn gan...'
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Mr Gasyth » Maw 20 Ion 2004 12:24 pm

Diolch.
Oes na reol am bethe felma 'dwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan løvgreen » Maw 20 Ion 2004 1:02 pm

Rhywbeth i'w wneud efo "i" ar ol y gytsain,
e.e.
canu > cenir
Ond canais nid cenais, dwi'n meddwl, am mai "a" sy'n dilyn yr "n".
A canwch, nid cenwch (er gwaetha hen ganeuon fel "cenwch im gân...")
:?
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 48 gwestai

cron