Ffôn

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffôn

Postiogan Chwadan » Maw 20 Ion 2004 10:26 pm

Ffôn - gwrywaidd neu fenywaidd? Sgennai'm geiriadur ac mae un Llanbed yn rybish :(
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Leusa » Maw 20 Ion 2004 11:32 pm

ma'n swnio'n fenywaidd i mi.
Y ffon hon. Mae hi'n ffon wen.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan nicdafis » Mer 21 Ion 2004 12:05 am

Paid gwrando ar Leusa, mae hi'n dod o Lanuwchllyn. Gwrywaidd, yn ôl Bruce.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Mer 21 Ion 2004 12:07 am

nicdafis a ddywedodd:Paid gwrando ar Leusa, mae hi'n dod o Lanuwchllyn.


Disclaimer: dw i'n dod o'r Waun.

Chirk.

Cewch chi chwerthin nawr.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan gronw » Mer 21 Ion 2004 12:38 am

nicdafis a ddywedodd:Paid gwrando ar Leusa, mae hi'n dod o Lanuwchllyn. Gwrywaidd, yn ôl Bruce.

Rhyfedd - fyswn i wedi dweud mai benywaidd ydy ffôn hefyd. Dwi ddim bob amser yn cytuno efo Bruce. Arhoswch yn eiddgar am fy Ngeiriadur i... :winc:

Debyg bo ni ddim angen gwbod cenedl ffôn yn aml iawn (e.e. mwy nag un, neu angen ansoddair i ddisgrifio'r ffôn), felly dyna pam bod ansicrwydd. Hm.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Mr Gasyth » Mer 21 Ion 2004 8:50 am

Benywaidd fuaswn i'n deud hefyd, er ma cenhedloedd pethe yn gallu newid o ardal i ardal. O le ma Bruce yn dod?
Ma 'dau ffo^n' yn swnio'n hollol rong i'ng nglust i, a'r glust sy'n iawn bob tro.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Barbarella » Mer 21 Ion 2004 9:31 am

Mae geiriadur y BBC yn cynnwys cenedl enwau:

http://www.bbc.co.uk/cgi-bin/wales/lear ... lio=Search

Gwrywaidd. Mae'n defnyddio geiriadur Cysill dwi'n meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Chris Castle » Mer 21 Ion 2004 9:36 am

Ffôn, Ffonau = gwrywaidd er ei fod e'n air benthyg sydd fel arfer yn fenywaid

Ffon, Ffyn = benywiad

Ydy honno'r broblem?
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan gronw » Mer 21 Ion 2004 11:35 am

Dwi di meddwl un peth arall - ma rhai pobl yn galw mobile phones yn 'ffôn fach' yn Gymraeg, felly ddim jyst ni sy'n rhyfedd... Fydde 'ffôn bach' yn swnio'n rhyfedd iawn yn fy marn i.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Chwadan » Mer 21 Ion 2004 1:59 pm

Gwrywaidd swn i'n ddeud - debyg fod na ddim ateb "cywir"?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 58 gwestai

cron