Ffurfiau cymharol ac eithaf

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffurfiau cymharol ac eithaf

Postiogan nicdafis » Sul 25 Ion 2004 1:37 pm

Yn ôl yr <a href="http://linguistlist.org/issues/15/15-117.html">erthygl hon</a> ar Restr yr Ieithyddwyr, mae Saesneg yn fishi colli ei ffurfiau ffurfdroëdig, megis "quicker" a "smaller":

To-day, it is not uncommon to hear native speakers of AE [<i>Saesneg Americanaidd</i>] and BE [<i>S. Prydeinig</i>] up to at least their mid-- thirties write (e.g., in THE GUARDIAN) and say (e.g., on NPR) such things as ''more small'' and ''more quick.''


Ydy rhywbeth teybg yn digwydd yn y Gymraeg? Ydy pobl yn dweud "yn fwy bach" yn lle "llai"?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Lowri Fflur » Sul 25 Ion 2004 1:42 pm

Dwi' n cofio yn ysgol oedd na crez o pobl yn dweud "mwy bach" ond dwi' n meddwl bod oedd o yn bennaf i weindio yr athrawon i fynu. Ar y cyfan yn Gaernarfon bethbynag mae pobl yn tueddu deud "llai"
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Ffurfiau cymharol ac eithaf

Postiogan brenin alltud » Maw 03 Chw 2004 10:06 am

nicdafis a ddywedodd:Ydy rhywbeth teybg yn digwydd yn y Gymraeg? Ydy pobl yn dweud "yn fwy bach" yn lle "llai"?


Fe glywi di bobol weithie'n dweud 'yn fwy aml' yn lle 'amlach' neu 'yn fwy cyflym' yn lle 'cyflymach', 'yn fwy cadarn' yn lle 'cadarnach' ayb, ond hyd yma maen nhw'n tueddu i sylweddoli'r cam ac yn cywiro'u hunen yn syth! Faint barith hynny, dw i'm yn gwybod... Oes 'na gymint o ots a hynny, chi'n meddwl, gan mai ar lafar mae iaith yn tueddu i newid be' bynnag?
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 40 gwestai

cron