gan nicdafis » Llun 02 Chw 2004 3:50 pm
Pan oedd y "bathwr" yn mynd ati i gyfieithu pecyn iaith phpBB, oedd e'n gofyn am awgrymiadau gwell, a phrin iawn oedden nhw. Mae'r bathwr yn ddysgwr, sy'n wneud digon o gamgymeriadau* yn ei Gymraeg i beidio poeni gormod os ydy rhywun yn meddwl ei fod e'n obsesed â rhywun dyw e ddim wedi clywed amdani tan heddi. (Sori, Gwenno, os wyt ti'n darllen hyn.)
Os dydy "gwenoglun" ddim yn iawn, bydd yn ddigon hawdd i'w newid.
* Clasur diweddaraf: rhywun yn dweud wrtha i pa mor drist oedd e bod mam fy mhartner wedi marw yn diweddar, a dyna fi'n meddwl ei fod e'n siarad am fy nhoriad gwallt. <i>Hilarity ensues</i>.