Tudalen 1 o 2

HEATH = MYNYDD BYCHAN??

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 12:41 pm
gan Angharad
All unrhyw un fy helpu? Dwi ddim yn cofio os mai Cathays neu'r Heath a elwir yn Mynydd Bychan. HEWLP!

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 12:56 pm
gan Geraint

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 12:58 pm
gan Di-Angen
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Mynydd Bychan a Y Waun?

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 1:01 pm
gan Geraint Edwards
Onid Upper Heath yw'r Waun Ddyfal, a Mynydd Bychan yw'r Lower Heath?

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 1:02 pm
gan Geraint
HEATH, THE GREAT,
but in Welsh Mynydd Bychan ("the Little Heath") A wide tract of once uncultivated land lying to the north of Cardiff. The English name distinguishes it from the Little Heath, in Welsh Waun Ddyfal ("the waste mead,") which lies between the Great Heath and the town.

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 1:04 pm
gan Rhodri Nwdls
Y Waun Ddyfal ydi Cathays ia?
The English name distinguishes it from the Little Heath, in Welsh Waun Ddyfal ("the waste mead,") which lies between the Great Heath and the town.

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 1:22 pm
gan Geraint Edwards
Sut all Cathays fod yn Waun Ddyfal? Mae Ysbyty'r Waun filltiroedd i ffwrdd i'r gogledd! Mae angen arnom arbenigwr o Adran Gymraeg coleg Caerdydd sydd ar maes e i ateb y cwestiwn hwn !

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 1:24 pm
gan Rhodri Nwdls
Ma Cathays yn ymestyn reit fyny at y fynwent wrth dafarn yr Heath.

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 1:25 pm
gan Di-Angen
Dwi erioed wedi cyfeirio at "The Heath" fel "Y Waun". Doeddwn ddim yn gwybod tan ychydig o flynyddoedd yn ol fod y fath beth a "Mynydd Bychan"!

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 1:32 pm
gan Geraint Edwards
Gan mai Caerdydd yw ein prifddinas ni, be am fynd yn soffistigedig ar fodel Paris; cael gwared ag enwau amwys y maestrefi, a rhifo ardaloedd yn lle? Hehe, "dwin byw yn y XIVeg arrondissement o Gaerdydd." Swnio'n classy iawn wedyn, dydi? :lol: