gan brenin alltud » Iau 05 Chw 2004 6:21 pm
Cysylltiadau gan amla' yw lluosog cysylltiad, h.y. contacts, relations, links e.e. cysylltiadau cyhoeddus - public relations
Cysylltiau, mae'n siwr, mae Bruce wedi'i roi fel lluosog enw fel 'link' neu 'joint'.
Swn i'n osgoi 'cysylltiau' bob tro os posib, os nad yw'r peth yn disgrifio rhywbeth technegol fel 'cyswllt' sy'n dal rhywbeth, falle.
Falle bod dim eisie i ti roi'r lluosog am 'cyswllt' h.y. there are strong links between such and such - mae yna gysylltiad cry'/berthynas gre' rhwng hwnco a honco...
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'