Cymedrolwr: Gwen
Dwlwen a ddywedodd:Oce, fi'n cael mbach o drafferth 'da pobl ag amhariad synhwyraidd ddeuol/ byddardallineb
y gwreiddiol sy gen i yw: people with dual sensory impairment/ deafblindness
I gychwyn - amhariad ddeuol-synhwyraidd neu synhwyraidd ddeuol? neu unrhyw awgrymiadau eraill?
Nesa, byddardallineb neu byddar-dallineb - ac os yr ail, oes angen treuglo fe'n byddar-ddallineb? ymddiheuriadau am orfod ofyn hynny!
Hefyd, oes 'na gyfieithiadau ar gyfer 'one-to-one' a 'case-study'? ma'r cynigion sy 'da fi hyd yn hyn yn boenus o lythrennol
'Na ni wy'n credu, reit paned...
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:'one-to-one' fyddai 'unigol' neu 'personol' dybiwn i, a 'case-study' yw 'astudiaeth achos'.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai