Tudalen 1 o 6

Edefyn Cyfieithu

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 12:00 pm
gan Geraint
Allai ddimm gweld edefyn lle all pobl ofyn am gymorth i gyfieithu termau/geriau.
Felly dyma un i ddechrau!:

Area not contested

Diolch yn fawr iawn

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 12:06 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Cyd-destun? Ai ardal neu faes a olygir wrth 'area'?

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 12:09 pm
gan Geraint
Ardal o dir

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 12:11 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dim cystadleuaeth am yr ardal?

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 12:16 pm
gan Geraint
Ydi :"Ardal na wrthwynebwyd" yn gywir?

Mae o'n swnio braidd yn an-naturiol, am mae i rhoi ar allwedd ar fap ydi o, i ddangos ardal penodol.

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 12:20 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
'Ardal nas gwrthwynebwyd' falle, ond sai'n siwr. Ble mae Lovgreen pan y'ch chi angen e? Glou, rhywun i fflachio symbol gitar yn yr awyr, a la Batman!

Mae e siwr o fod yn dal i chwerthin am poop scoops, myn yffach i! :rolio:

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 12:42 pm
gan brenin alltud
Er mwyn i bwy bynnag fydd yn defnyddio'r map ddeall yr hyn ti'n weud, rhaid i'r sawl sy'n cyfieithu ddeall y cyd-destun!

Sut fap yw e? Ai rhywbeth i wneud a^'r hawliau mynediad newydd i gefn gwlad yw e? Ai cyfeirio at ardal lle mae tirfeddianwyr wedi ymateb/gwrthwynebu yn ei chylch mae e? Ai trafod neu herio neu gwrthwynebu mae'r 'contested' yn ei olygu?

Mae'r Saesneg yn aml yn cwtogi ar eirie i symleiddio gan wneud y peth yn fwy cymhleth yn aml!

Heb wybod be'n union yw'r allwedd, mae'n anodd gwybod. Ond falle bod

"Ardal nad yw'n rhan o'r gwrthwynebiadau / cwynion
neu
Ardal heb gael ei herio / sy' heb ddenu gwrthwynebiad"

yn olreit!

Lovgreen!!! :wps:

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 12:45 pm
gan brenin alltud
Neu'n well (os da ni 'di deall yn iawn):


'Ardal nad yw'n destun gwrthwynebiad'

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 12:48 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
(i gerddoriaeth Batman, wrth reswm) Dynynynyny Lovgreen! Dynynynyny Lovgreen! Lovgreen! Lovgreen! Lovgreen!

Ardal nad yw'n destun anghydfod?

Feck knows!

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 12:55 pm
gan Geraint
brenin alltud a ddywedodd:Sut fap yw e? Ai rhywbeth i wneud a^'r hawliau mynediad newydd i gefn gwlad yw e? Ai cyfeirio at ardal lle mae tirfeddianwyr wedi ymateb/gwrthwynebu yn ei chylch mae e? Ai trafod neu herio neu gwrthwynebu mae'r 'contested' yn ei olygu?



Blydi Hel! Spot on ,sut wy ti'n gwybod hyn?!! :ofn: ti'n gallu darllen meddyliau pobl dros y we?

Diolch am yr awgrymiadau.