Er mwyn i bwy bynnag fydd yn defnyddio'r map ddeall yr hyn ti'n weud, rhaid i'r sawl sy'n cyfieithu ddeall y cyd-destun!
Sut fap yw e? Ai rhywbeth i wneud a^'r hawliau mynediad newydd i gefn gwlad yw e? Ai cyfeirio at ardal lle mae tirfeddianwyr wedi ymateb/gwrthwynebu yn ei chylch mae e? Ai trafod neu herio neu gwrthwynebu mae'r 'contested' yn ei olygu?
Mae'r Saesneg yn aml yn cwtogi ar eirie i symleiddio gan wneud y peth yn fwy cymhleth yn aml!
Heb wybod be'n union yw'r allwedd, mae'n anodd gwybod. Ond falle bod
"Ardal nad yw'n rhan o'r gwrthwynebiadau / cwynion
neu
Ardal heb gael ei herio / sy' heb ddenu gwrthwynebiad"
yn olreit!
Lovgreen!!!