Tudalen 5 o 6
Postiwyd:
Mer 12 Mai 2004 10:52 am
gan mam y mwnci
...Mae eu taith gyntaf fel prif artistiaid yn dechrau ym Mai, yn eu cefnogi bydd...? Wbath felly , eto hen ffash braidd'ndi!
Postiwyd:
Mer 12 Mai 2004 10:53 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Yn anffodus, aeth y gwaith yn ol at y cwsmer brynhawn dydd Llun!
Postiwyd:
Mer 12 Mai 2004 1:58 pm
gan Fflwcs
cystel a dim weden i. diolch
Postiwyd:
Maw 01 Meh 2004 8:29 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Un i chi'r boffs cerddorol mas 'na'r bore 'ma - beth yw master? H.y. 'their recordings are mastered'. Odi meistroli yn gweddu neu oes 'na rywbeth arall yn cael ei ddefnyddio? Diolch yn dalpe.
"mastering"
Postiwyd:
Maw 01 Meh 2004 8:35 am
gan sian
Codwyd y term "mastering" yn y fforwm Welsh Termau Cymraeg y llynedd.
Yr awgrym a gafwyd gan John Puw oedd:
"mae'n beryg fod angen rhywbeth hir wyntog fel "llunio'r fersiwn terfynol" neu "llunio'r tâp meistr" neu "llunio'r fersiwn meistr".
Gobeithio bod hyn o gymorth,
Postiwyd:
Maw 01 Meh 2004 8:45 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Wedi defnyddio 'creir fersiwn meistr o'u recordiau'. Diolch o galon.
Postiwyd:
Llun 19 Gor 2004 12:55 pm
gan Chwadan
Help
"Uwch Swyddog Rheolaeth a Rhenti Tai" - be di hwnna'n Susnag? Gas gennai gyfieithu
Postiwyd:
Llun 19 Gor 2004 12:57 pm
gan Chwadan
Hefyd, be di "pwyntiau angen uwch" plis? (Cyd-destun: rhentu tai)
Postiwyd:
Llun 19 Gor 2004 1:01 pm
gan Rhys
Peidiwch chwerthin, ond oes gyda rhywun awgrymaid ar gyfer 'toiled trained'?
Y frawddeg dwi'n geisio'i gyfieithu yw....we respectfully ask that all children are toilet trained or thereabouts.
Diolch
Postiwyd:
Llun 19 Gor 2004 1:24 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Chwadan a ddywedodd:Help
"Uwch Swyddog Rheolaeth a Rhenti Tai" - be di hwnna'n Susnag? Gas gennai gyfieithu
Senior Housing Management and Renting Officer 'sen i'n meddwl. 'Pwyntiau angen uwch' yw 'Higher requirement points'?
Rhys - dim syniad, mae'n ddrwg 'da fi... Gofynnwn bod plant wedi dysgu mynd i'r ty^ bach...?