Un i chi'r boffs cerddorol mas 'na'r bore 'ma - beth yw master? H.y. 'their recordings are mastered'. Odi meistroli yn gweddu neu oes 'na rywbeth arall yn cael ei ddefnyddio? Diolch yn dalpe.
Codwyd y term "mastering" yn y fforwm Welsh Termau Cymraeg y llynedd.
Yr awgrym a gafwyd gan John Puw oedd:
"mae'n beryg fod angen rhywbeth hir wyntog fel "llunio'r fersiwn terfynol" neu "llunio'r tâp meistr" neu "llunio'r fersiwn meistr".
Gobeithio bod hyn o gymorth,