v, t, ayb

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

v, t, ayb

Postiogan Chwadan » Sul 15 Chw 2004 10:47 pm

Gai ofyn be di'r "v" a "t" ofnadwy ma sy'n cael eu defnyddio i sefyll am "fi" a "ti"? Ma na ddigon o Saesneg yn yr iaith fel ma'i, heb ein bod ni'n gorfod dwyn yr wyddor Saesneg hefyd :ofn:

Be am jyst sticio i'w defnyddio nhw pan da chi'n trio deud lot o betha mewn un neges text?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Ifan Saer » Sul 15 Chw 2004 11:31 pm

Clywch clywch, Chwadan. Cytuno'n llwyr. Edrych yn hyll ar y diawl, ac yn darllen yn waeth.

Ar y goelcerth :drwg:
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Leusa » Llun 16 Chw 2004 12:14 am

cytuno gant y cant, 'dw i yn gyndyn iawn hydnoed o ddefnyddio nhw mewn negeseuon testun, son am hyll!!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan kamikaze_cymru » Llun 16 Chw 2004 12:46 am

sori. diolch i msn mae o wedi dod yn fymryn i habit yn dilyn teipio mor sydyn a (bron i fi fynd 'a vn medru') phosib.

nai drio peidio.

nai hefyd fynd allan a llabyddio fy hun trwy luchio cerrig mawr i'r awyr a sefyll lle dwi'n meddwl neith nhw landio. fel pob troseddwr arall yn erbyn yr iaith.
peidiwch bod ofn gofyn y cwestiwn dwl
ymddiheuriadau am y malu awyr

http://kamikaze-cymru.blog-city.com/
Rhithffurf defnyddiwr
kamikaze_cymru
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 471
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 6:18 pm
Lleoliad: Fy ngwely

Postiogan Chwadan » Llun 16 Chw 2004 8:55 am

:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 16 Chw 2004 8:15 pm

Blydi mynd ar fy nerfau i, hefyd. Faint o anodd ydi ysgrifennu 'fi' neu 'ti', bethbynnag?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Rhodri » Maw 24 Chw 2004 3:09 am

Fel 'LOL' pan yn siarad ar MSN, basdad o beth, rimeindio fi o steddfod bob tro (sun beth da, ond dal yn beth diog, saesnig/americanidd i'w wneud),
Clwydda noeth! - does yna neb yn chwerthin allan yn uchel, NO WE! a dwi bob tro yn ateb y lein yma efo "botas maip" ond di bobo ddim yn dalld... Gan fod y basdad pethe yn bod yn lle cynta siaradwch yn gall mewn tecsd ac em-es-eniaieath, yn hytrach na mewn crap anealladwy, engl-americanaidd, orengaidd gachlyd
shifft y westral!
Rhodri
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 285
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 2:07 pm
Lleoliad: Put-Jelly


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 50 gwestai

cron