Ymadroddion yn mynd ar eich nerfau

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ymadroddion yn mynd ar eich nerfau

Postiogan garynysmon » Iau 19 Chw 2004 3:17 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Pa ymadroddion Cymraeg sydd yn mynd ar eich nerfau ?

'Mewn cyd-destun'.

Dwi ddim yn gwbod pam, ond mae'r ymadrodd yma yn mynd ar fy nerfau i :crechwen:


Ha! wnewch chi ddim coelio pa mor aml rwy'n defnyddio'r ymadroddiad yna mewn traethodau!.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Rhodri » Gwe 20 Chw 2004 1:51 am

Un gymharol newydd, dwin ama ond....

"Jaman i chdi!" - fel arfer yn cael ei ynganu gan ferched Ganarfon ac yn golygu 'cwilydd' neu 'wp a deis'.... neu rwbath.

Lle ddoth y gair yma gyda llaw (blaw Gaernarfon)?
Rhodri
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 285
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 2:07 pm
Lleoliad: Put-Jelly

Postiogan Blewgast » Sad 21 Chw 2004 6:22 pm

mynd ar fy nerfau i


GRRRRR :drwg:

dwi'n casau'r ymadrodd yna!
Be sy o'i le efo "mynd dan 'ngroen" neu rhwbeth felly??
Rhithffurf defnyddiwr
Blewgast
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 443
Ymunwyd: Sul 14 Medi 2003 6:29 pm
Lleoliad: Mewn rhyw man gwyn man draw.

Postiogan Nick Urse » Sad 21 Chw 2004 6:25 pm

ma'na ddynas yn gwaith efo fi sy'n deud 'namyn' bob yn ail air, ac mewn llefydd cwbl anaddas ac amherthnasol i'r hyn ma hi'n ddeud. biti sai'n sdicio'i namyns i fyny ei thwll twllwch cin bellad ag y basa nhw'n mynd....
Ara deg a fesul dipin ma' stwffio bys i din gwybedyn
Rhithffurf defnyddiwr
Nick Urse
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 78
Ymunwyd: Sul 21 Medi 2003 8:00 pm

Postiogan brenin alltud » Sul 22 Chw 2004 3:02 am

Da!!!!
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Mali » Sul 22 Chw 2004 6:16 am

Beth am ' Yn tydi? '
Hyn ar ddiwedd brawddegau. Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n euog o ddweud hyn , a bydd fy ngwr i yn fy atgoffa am y peth yn reit aml.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Mwddrwg » Sul 22 Chw 2004 10:18 am

brenin alltud a ddywedodd:"ar ddiwedd y dydd..." :drwg: :drwg: :drwg: :drwg: :drwg: :drwg: :drwg: :drwg:


cytuno - mor ddrwg ma'n brifo fy mhen. un arall dwi'm yn licio ydi 'wela i di' :rolio: dydi o'm yn meddwl dim byd - jyst ffordd diasgwrn cefn o beidio deud dim byd yn benodol
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Postiogan Rhodri » Maw 24 Chw 2004 2:57 am

son am "welai di", yr un peth pan ti'n cwrdd rywun ar y stryd ond tim cweit yn nabod nhw ddigon da ond ti yn blaw twyt ti ddim felly ma'r basdad peth "haia, ti'n iawyyyn" ffwc yma yn dod allan yn y ffordd mwya ffals, fel tae ti'n poeni'r peth lleia amdan y basdad pobol diserch yn y lle cynta.
Tasa rywbeth ofnadwy wedi effeithio'u bywydau nhw yn ddiweddar- ffer inyff - yno mae rheswm i ofyn y fathbeth, ond ddim pob dydd, pob awr, pob munud. "iawn ia" ydy'r ateb rhan fwyaf or amser pryn bynnag, gwir neu gae, felly plis Gymry - rhowch stop ar y cabledd gachu ma.

P.S

Ma Sumai yn iawn am ryw reswm
shifft y westral!
Rhodri
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 285
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 2:07 pm
Lleoliad: Put-Jelly

Postiogan Lowri » Sad 17 Ebr 2004 9:42 am

Achos pam!! :drwg: :x :drwg:
Mae'r cariad at y Cwm yn berwi yn fy ngwaed
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 521
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 2:44 pm
Lleoliad: Cwm Gwendraeth

Postiogan Mwnci Banana Brown » Sad 17 Ebr 2004 11:03 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:"Fel bydde ni'n gweud yn Sir Benfro." (sori, rhywbeth personol)


gad sir benfro i fod- ma fen gwd lle achan!
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai