Mor gyflym â...

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mor gyflym â...

Postiogan Jeni Wine » Mer 18 Chw 2004 5:01 pm

Dwi 'di cholli hi pnawn ma ma arna i ofn. Be ydi'r dywediad Cymraeg am rwbath cyflym?

Y cyd-destun ydi 'llygaid' gyda llaw, h.y. 'her eyes as quick as fleas'. Dwi'n eitha hoff o hwn 'ei llygaid mor gyflym â gwybed' ond ma gen i deimlad bod addasiad gwell ar ga'l yn rwla.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 18 Chw 2004 5:07 pm

...chwinciad llygad llo. :D
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Garnet Bowen » Mer 18 Chw 2004 5:09 pm

Ei llygaid yn chwim fel gwybed?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan brenin alltud » Iau 19 Chw 2004 1:50 pm

Ei llyged yn gwibio i bob cyfeiriad
Ei llyged chwim
Ei llyged yn saethu i bob cyfeiriad (ond yn awgrymu rhywbeth arall, dydi, fel ei bod hi'n ansicr neu nerfus)

Dibynnu shwd ma'r awdur am gyfleu'r ferch - yn siarp, neu'n aniddig, neu'n nerfus...
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan brenin alltud » Iau 19 Chw 2004 1:55 pm

Neu be' am anghofio'r 'fel' a'r 'mor gyflym â':

Ei llygaid yn wybed mân ...
Ei llygaid yn wybed gwyllt ...

neu
Gloynnod byw ei llygaid... (braidd yn rhy bert os y'n ni fod ei chysylltu â delwedd fudr, frwnt y 'fleas' mewn ryw ffordd!)

Mae cyfieithu llenyddieth yn grefft, anodd iawn iawn!
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Aran » Iau 19 Chw 2004 2:07 pm

her eyes as quick as fleas?!! o le 'dy hynna'n dod?!... :ofn: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Jeni Wine » Iau 19 Chw 2004 7:33 pm

brenin alltud a ddywedodd:Ei llyged yn gwibio i bob cyfeiriad

ia...dwi'n licio hwnna
Dibynnu shwd ma'r awdur am gyfleu'r ferch - yn siarp, neu'n aniddig, neu'n nerfus...


Yndi, yn union - ma fy holl ddarlithoedd cyfieithu yn ffrydio yn ol...

At wenci slei o'r enw Sisw Bal mae'r ymadrodd yn cyfieirio. Ma hi'n paratoi i ymosod ar gwningen fach ddiniwed...(peidiwch a gofyn)

Diolch o droed am yr help. TWdlw. :P
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan bartiddu » Maw 24 Chw 2004 1:01 am

Fel Llycheden! (paid gofyn beth yw llecheden!)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Rhodri » Maw 24 Chw 2004 3:31 am

cyn gyflymed ac/ag ydy o pryn bynnag (dwin meddwl)

cyflym fel wimblad

cyn gyflymed a ma hanner potel o Jamesons Ramirez yn diflanu tra mae'r cradur ar goll yn Werddon!
shifft y westral!
Rhodri
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 285
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 2:07 pm
Lleoliad: Put-Jelly


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 45 gwestai

cron