Aled a ddywedodd:Rhoces a ddywedodd:Ond ma gogs yn gal trafferth gyda'r gwahanieth rhwng 'y' ac 'u' achos bo nhw'n ynganu'r ddau run ffordd. E.e. dwi di gweld gogs yn rhoi 'foru' yn lle 'fory'!!
Tydan ni ddim wastad yn ynganu'r ddau run ffordd, ddim mwy na ma deheuwyr. Ma 'y' yn fod i swnio fel 'u' o dan rai amgylchiade fel yn 'fory'. Pan ma hyn yn digwydd ma deheuwyr jest yn ynganu 'y' fel 'i' a feswn i'n synnu dim o weld un yn sgwennu 'fori'.
Ti di dala fi mas fan'na whare teg i ti! Sawl un o'r de yn rhoi 'fori' lawr yn lle 'fory' wps!
Gwyddno: ti'n llygad dy le.....ma hwntw a hwntw i gal! Run peth yn y gogledd. Wen i arfer meddwl bod gogs yn gogs 'fyd ond na....ma 'na wahanieth, a nes bo chi'n dod lan 'ma (neu'n mynd lawr i'r de....dibynnu ble y'ch chi nawr), so chi'n sylwi ar y gwahanieth.
Dwi dal yn confused am y pethe 'rhyfedd' ma Cardis yn gweud, fel un o'r Wes Wes, bydden i'n gweud bod ein iaith ni'n rhyfeddach (a gwell ) ond 'na 'ny, 'y marn i yw hwnna!