Cymedrolwr: Gwen
Cardi Bach a ddywedodd:o ran dy ddyfyniad am rywun yng Nghaernarfon, y gwir anffodus yw FOD pobl yng Nghaernarfon a Bangor gyda'r agwedd honno. Daw hyn o mhrofiad i yn byw a gwitho ym Mangor.
Hernan Rodriguez a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:o ran dy ddyfyniad am rywun yng Nghaernarfon, y gwir anffodus yw FOD pobl yng Nghaernarfon a Bangor gyda'r agwedd honno. Daw hyn o mhrofiad i yn byw a gwitho ym Mangor.
Yn anffodus mae'r dyfyniad yma yn dangos dy anwybodaeth lwyr di o'r sefyllfa trwy beintio Bangor a Caernarfon gyda'r un brwsh. Mae'n swnio i mi na wnest ti gamu allan o Fangor tra roeddat ti'n gweithio yna. ROEDD yr agwedd hono yn bodoli ym Mangor genhedlaeth neu ddwy yn ol, ond bellach ychydig iawn o bobl gyffredin Bangor fyddai'n gallu siarad digon o Gymraeg i wneud datganiad o'r fath. Gallai'r gwahaniaeth 9 milltir lawr y ffordd ddim bod yn fwy. Sa waeth i ddwy dre fod ar ffocin blanedi gwahannol o ran iaith. Felly paid a rhannu mwy o dy anwybodaeth gyda mi. Cyma'r thygs bach na o Ganarfon - y baseball cap crew - does na run o heina'n rhoi'r tos pa mor dda oedd eu Cymraeg (fel ma enw saesneg y gang yn awgrymu) ond Cymraeg di iaith bob un ohonyn nw. Alla i sicrhau ti byddai dim gobaith bod criw tebyg yng Nghaerfyrddin (na Bangor) yn siarad giar o Gymraeg.
Ifan Saer a ddywedodd:Distrywo. Blydi stiwpud. Beth sy'n bod efo dinistrio?
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ifan Saer a ddywedodd:Distrywo. Blydi stiwpud. Beth sy'n bod efo dinistrio?
Mae 'distryw' yn dod o'r Lladin, destruo ac nid o'r Saesneg. Mae gan 'distrywio' a 'to destroy' yr un tarddiad, ac nid un sydd wedi dod o'r llall.
Yffach, fi'n teimlo'n glyfar nawr...
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai