Casau'r gair 'trafaelio' - teithio ydyw'r gair cywir, onid e??!!
A be am 'e-byst'? Fysat ti ddim yn deud bo ti 'di cael 'pyst' drwy'r post na fysat?
Hefyd - meDr yn lle meTr, e.e. 500meTr
Hefyd casau pan mae Cymry Cymraeg yn defnyddio enwau Saesneg am lefydd yn Nghymru - pa esgus sydd? Mae pawb yn gwbod na Caergybi ydy'r enw Cymraeg (gwreiddiol) am Holyhead! Os na 'dan ni'n mynd i ddefnyddio'r enwau CYmraeg, pwy sydd??!!
Hefyd casau pan mae Cymry Cymraeg yn sgwennu cyfeiriadau yn Saesneg, llenwi ffurflenni Saesneg, sgwennu sieciau Saesneg, a pheidio ffonio llinellau ffon Cymraeg.
Ond dadl arall ydy honno...........!!!
'Sna'm byd fath rant ar b'nawn Gwener, nag oes??!!