Eu ac Ei

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Eu ac Ei

Postiogan Geraint » Iau 18 Maw 2004 12:48 pm

Plis plis all rhywun esbonio i mi y gwahaniaeth a lle i'w defnyddio, dwi di bod yn defnyddio nhw ar random :wps: :wps: :wps:

ON: Caniatad i gymryd y piss
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan mefus » Iau 18 Maw 2004 1:02 pm

Ti'n defnyddio 'eu' pan ti'n son am rhywbeth sy'n perthyn i fwy nag un person (fel 'their' yn Saesneg)
e.e. eu cartref, eu plant, ayyb.
Ma' 'ei' yn son am rhywbeth sy'n perthyn i un person, ('his' neu 'her' yn Saesneg)
e.e. ei gath/ei chath,
ei got/ei chot,
ayyb.
Neu rhywbeth felna!
Ond ma' 'ei gilydd' yn eithriad - ma hwnna wastad yn aros yn 'ei' yn hytrach na 'eu' am rhyw reswm.
hmmm...
mefus
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Llun 08 Rhag 2003 11:57 am
Lleoliad: aber town

Re: Eu ac Ei

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 18 Maw 2004 1:36 pm

Geraint a ddywedodd:ON: Caniatad i gymryd y piss


Ha ha ha ha ha! Geraint ddim yn gwbod gwahaniaeth! :P

E.e. y frawddeg 'His only problem was that their buzzard had flown away the previous June.'

'Ei unig broblem oedd bod eu boda wedi hedfan ymaith y mis Mehefin blaenorol.'

Mae'n ymwneud ag at bwy y mae'r gwrthrych y frawddeg yn cyfeirio, h.y. pwy sy'n berchen arno. Neu rywbeth. Paid gofyn i fi. :rolio:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Geraint » Iau 18 Maw 2004 2:03 pm

Diolch.

All rhywun awgrymu dulliau i wella gramadeg? Os na lyfr da?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan mefus » Iau 18 Maw 2004 2:25 pm

Ma' 'Gramadeg y Gymraeg' Peter Wynn Thomas yn lyfr da, os oes 'da ti amynedd i fynd drwyddo fe. Ma' Peter Wynn yn gwbod ei stwff chware teg, ma' fe'n esbonio'r rheole bach niwsans yn eitha' clir. O'dd ei ddarlithoedd e'n lot o sbort hefyd! :D

Neu ma' 'Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu' J Elwyn Hughes yn spot on os tise rhywbeth ysgafnach - llyfryn bach handi uffernol sy'n esbonio'r prif reolau iaith a'r geirie sy'n cael eu camsillafu fwya'. £3.50 o dy siop lyfrau leol - bargen!
hmmm...
mefus
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Llun 08 Rhag 2003 11:57 am
Lleoliad: aber town

Postiogan nicdafis » Iau 18 Maw 2004 3:44 pm

Mae llyfr Peter Wynn Thomas yn wych, ond dw i'n ffeindio bod <a href="http://www.amazon.co.uk/exec/obidos/ASIN/0415282705/ref=sr_aps_books_1_2/026-2746929-4425262">Modern Welsh Grammar</a> Gareth King yn haws i'w ddefnyddio.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Barbarella » Iau 18 Maw 2004 4:16 pm

Mae Ei ac Eu yn hawdd -- y gwahaniaeth rhwng Ei ac Ei oedd wastad yn drysu fi...!

Ro'n i'n sgrifennu pethau fel "gyrrodd hi yn ei gar hi" -- a fydden i'n cael croes goch am y camdreiglad. Reit, nes i ddysgu wedyn bod c yn treiglo'n ch ar ôl ei -- ac wedyn cael siom enfawr wrth gael croes goch ar frawddeg fel "mwythodd e'i chath e".

Nath neb drafferthu esbonio i fi bod gwahaniaeth rhwng ei (ef) ac ei (hi)!! Nes i mond sylwi pan o'n i'n 16 ar ôl prynu copi o'r Treigliadur.

Gyda llaw, dwi'n ystyried cynhyrchu setiau tywelion "Ei ac Ei" (fel rhai "His and Hers" Saesneg, ond fwy hyblyg :winc: :D )

Rhywun eisiau rhai?!
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Jeni Wine » Iau 18 Maw 2004 4:32 pm

mefus a ddywedodd:Ma' 'Gramadeg y Gymraeg' Peter Wynn Thomas yn lyfr da, os oes 'da ti amynedd i fynd drwyddo fe. Ma' Peter Wynn yn gwbod ei stwff chware teg, ma' fe'n esbonio'r rheole bach niwsans yn eitha' clir. O'dd ei ddarlithoedd e'n lot o sbort hefyd! :D


ti'n gall dwa'?! :ofn:
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan mefus » Iau 18 Maw 2004 4:53 pm

Jeni Wine a ddywedodd:
ti'n gall dwa'?! :ofn:


:winc:
hmmm...
mefus
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Llun 08 Rhag 2003 11:57 am
Lleoliad: aber town

Postiogan gronw » Sad 20 Maw 2004 11:04 pm

Jeni Wine a ddywedodd:ti'n gall dwa'?!

hm, ie, dwi rioed wedi clywed neb yn galw darlithoedd PWT yn 'sbort' o'r blaen. ac mae chwilio am bwynt penodol yn Gramadeg y Gymraeg fel nofio mewn jam - cymryd lot o amser i gyrredd lle dech chi ishe, a braidd yn stici...


Mae'n debyg mai camgymeriad ydy'r busnes ei/eu ma beth bynnag, yn wreiddiol... :ofn:

Ar lafar, i mae pobl yn ddweud tan yn ddiweddar iawn:
his cat = i gath e, i gath o
her car = i char hi
their horse = i ceffyl nhw.

Yn y mabinogi a.y.b., i sy'n cael ei sgwennu...

Ond benderfynodd william salesbury (neu william morgan, neu un o'r rheina) bod y gyfundrefn yna'n lot rhy syml. ac edrych ar y Lladin, a gweld mai eius oedd y gair Lladin am "his" Saesneg.

Am ryw reswm, fe benderfynodd gysylltu'r ddau, ar sail hollol ffug os dwi'n cofio'n iawn, a rhoi sillafiad ei fel yr un cywir newydd. Wedyn cael sillafiad ychydig yn wahanol ar gyfer y lluosog (sef 'eu') er bod yr unigol a'r lluosog yn swnio'n union yr un peth ar y pryd. Hollol wallgo.

Mi sgwennwyd y Beibl Cymraeg gan ddefnyddio'r ei a'r eu, a dyna pam mae pawb yn stryglo heddiw...
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 41 gwestai

cron