O'n i'n gwylio hwn hefo'r brawd bach ddydd Gwener dwetha, a pam, OOOO PAM mae'r cyflwynwyr yn mynnu treiglo enw'r rhaglen?!
"Croeso i Blaned Plant" mae nhw'n ei ddweud pob tro. Ai fi sydd wedi camddeall, neu ydi'r treiglad yma yn anghywir? All unrhyw un ddadlau o'r naill ochr?
Fy nadl i fyddai mai enw ar raglen ydi "Planed Plant", fel "Popcorn" neu "Bandit". Fyddai neb byth yn dweud "Helo a chroeso i Bopcorn" neu "Croeso i Fandit", fydde nhw?
Fydden i'm yn dadlau fel arfer, ond sut esiampl ydi cam-dreiglo i blant Cymru?
Beth ydi barn y maes?