Bespoke: 'ar archeb' neu 'wrth fesur'

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bespoke: 'ar archeb' neu 'wrth fesur'

Postiogan Rhys » Iau 01 Ebr 2004 2:50 pm

mae siop fframio eisiau arwydd dwyieithog ac un o'r termau yw

Bespoke Picture Framing Service

Ddim yn siwr pa un sydd fwya addas:
Gwasanaeth Fframio Lluniau ar archeb

neu

Gwasanaeth Fframio Lluniau wrth fesur


Unrhyw awgrymiadau bobol?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Ray Diota » Iau 01 Ebr 2004 3:11 pm

Gwasanaeth Fframio Lluniau Penodol fydde ni'n ei roi neu ... a wneir yn benodol
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan dafydd » Iau 01 Ebr 2004 9:49 pm

neu Pwrpasol?
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Rhys » Sad 03 Ebr 2004 3:35 pm

hmm?

Dwn i'm, mae eich dau cynnig yn Gymraeg llai cymhleth, ond ddim yn siwr os ydynt yn addas.

Diolch ond dwi'n dal yn :?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan brenin alltud » Llun 05 Ebr 2004 9:50 am

Y ffordd ore yw ffeindio mas yn union be' mae'r gwasanaeth yn ei gynnig, a meddwl am enw cynnil sy'n ei ddisgrifio ore yn Gymraeg.

Be' mae'r 'bespoke' yn ei olygu'n union? h.y. ai bod y siop yn barod i fframio unrhyw lun o unrhyw faint i chi e.e. Gwasanaeth Fframio Lluniau personol / i'ch dibenion / cyfarwyddiadau / gofynion chi?

Neu a yw'n hytrach yn cynnig gwasanaeth digon cyffredin ond eisie swnio'n fwy 'posh'? Os felly, fase 'gwasanaeth fframio lluniau heb ei ail/arbennig' yn addas.

Ond rhoi ring i'r boi/fenyw faswn i a holi be'n union maen nhw'n ei gynnig!
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Rhys » Llun 05 Ebr 2004 10:58 am

brenin alltud a ddywedodd:Be' mae'r 'bespoke' yn ei olygu'n union? h.y. ai bod y siop yn barod i fframio unrhyw lun o unrhyw faint i chi e.e. Gwasanaeth Fframio Lluniau personol / i'ch dibenion / cyfarwyddiadau / gofynion chi?



Roedd rhaid fi edrych yn y geiriadur i weld be oedd bespoke yn feddwl yn Saesneg yn gyntaf! Yn y cyd destun hwn, 'Made to measure' mae'n olygu. Hynny yw mae nhw'n gwneud y fframiau i ffitio eich lluniau (sdim rhaid defnyddio giletin i dori eich llun i faint y ffram)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan brenin alltud » Llun 05 Ebr 2004 11:23 am

Fel arfer gyda chyfieithu, mi fasai'n wedi bod yn well meddwl am rywbeth bachog yn Gymraeg yn gynta':

e.e. Fframio Lluniau - o bob maint, lliw a llun
neu
Gwasanaeth fframio lluniau - unrhyw faint, unrhyw fath

neu rywbeth tebyg! :wps:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Rhys » Llun 05 Ebr 2004 11:29 am

Gwasanaeth fframio lluniau - unrhyw faint, unrhyw fath


Dwi'n hoffi hwn. Diolch :)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai