'Cymdeithas gwerthfawrogiad'?...

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

'Cymdeithas gwerthfawrogiad'?...

Postiogan fisyngyrruadre » Iau 15 Ebr 2004 3:58 pm

... cyfieithiad derbyniol o 'appreciation society'? Wel? :?:
fisyngyrruadre
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 311
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 7:52 am
Lleoliad: Gogledd Cymru

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 15 Ebr 2004 4:07 pm

Beth yw'r teitl llawn? 'Cymdeithas Werthfawrogi, sen i'n meddwl, ond er enghraifft, Wine Appreciation Society i fi fydde 'Cymdeithas Gwerthfawrogi Gwin'.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Ti 'di beni? » Iau 15 Ebr 2004 4:07 pm

Dwi'n meddwl fysa "Cymdeithas Gwerthfawrogi..." yn well h.y.

Cymdeithas Gwerthfawrogi Anne Widdecombe
Rhithffurf defnyddiwr
Ti 'di beni?
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Sul 21 Maw 2004 4:09 pm
Lleoliad: Arnofio yn y bae...

Postiogan mam y mwnci » Iau 15 Ebr 2004 4:08 pm

Dwn i'm ond dwi'n meddwl y byswn i'n dueddol o fynd efo 'gwerthfawrogi'
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Jeni Wine » Iau 15 Ebr 2004 4:17 pm

mam y mwnci a ddywedodd:Dwn i'm ond dwi'n meddwl y byswn i'n dueddol o fynd efo 'gwerthfawrogi'


Ia, ond mae'n dibynnu dydi. Os mai mond 'Appreciation Society' ydi'r teitl wel maisho treiglo does, gan mai benywaidd di 'cymdeithas', fel udodd wahanglwyf [wrthum unwaith].
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan fisyngyrruadre » Gwe 16 Ebr 2004 11:17 am

Oce, 'Cymdeithas Gwerthfawrogi duh-duh-duh-duh' ydi o, te. Diolch gyfeillion.
fisyngyrruadre
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 311
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 7:52 am
Lleoliad: Gogledd Cymru

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 16 Ebr 2004 1:31 pm

Be ti'n ei werthfawrogi gyfaill?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron