Dr Gwion Larsen a ddywedodd:if buasa nhw yn cymryd y siawns o bwrdd yr iaith yn ei herlyn a rhoi enw drwg i nhw
Y gwir ydy na fydde Bwrdd yr Iaith byth yn erlyn neb na rhoi enw drwg iddyn nhw, beth bynnag maen nhw wedi'i wneud. Mae be ddigwyddodd yn Aberystwythyn ddiweddar yn eithriad ac yn syndod - fel arfer dydy'r Bwrdd yn gwneud dim ond canmol pawb a phopeth (ac yn bennaf, nhw eu hunain).
Gwefan Bwrdd yr Iaith a ddywedodd:Datblygwyd yr ymgyrch ‘Coca-Cola Joiwch’, gyda chymorth a chefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Hynny yw, mi roddodd y Bwrdd arian cyhoeddus i gwmni cyfalafol enfawr am wneud chydig o bosteri. Canmol mawr wedyn: "cam cadarnhaol iawn i hygrededd yr iaith Gymraeg". Lluniau o Rhodri Williams yn Golwg a.y.b. = hysbysebion am ddim i'r cwmni, delwedd dda i Fwrdd yr Iaith, "perswadio'r sector breifat"...
Bedair blynedd yn ddiweddarach, ydy Coca Cola wedi gwneud unrhyw beth? Nacydyn.
A wnawn nhw ddim chwaith, tan y bydd raid iddyn nhw. Arian ydy holl hanfod cwmnïau fel hyn (gweler cokewatch.org). Iawn, dydy jyst cal Deddf Iaith Newydd ddim yn mynd i achub yr iaith, ond mae'n rhan hollbwysig o'r holl bethau y mae'n rhaid i ni wneud os ydyn ni o ddifri ynghylch ei hachub hi. Mewn gwledydd lle mae na Ddeddf Iaith, mae'r cwmnïau mawr yn cadw o fewn y rheolau, er mwyn cael gwerthu eu cynnyrch yno, syml.