cyfiaethu

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

cyfiaethu

Postiogan welshie » Mer 21 Ebr 2004 9:48 pm

Hi, im a student at the University Of Glamorgan. I am a Welsh speaker, but my written Welsh has really been terrible due to me not writing it for a number of years. I am currently doing a project about bilingual e-commerce websites, and im in dire need of a translation of something from a Southern Wales Welsh Speaker and a Northern Wales Welsh speaker. I know its rude but could someone please either post here or e-mail me at welshwork@yahoo.co.uk the North Welsh and the South Welsh translation of the following:

"Hi, welcome to Book Surf, the online store that brings Welsh books to the world. Have you got a friend who wants a Welsh book for his or her birthday? Do you want to read the book that inspired the tv series Pam Fi Duw? Well you've come to the right place. Please enjoy your visit to the website and feel free to contact us if you have any queries."

You dunno how much you would be helping me out :) cheers
welshie
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Mer 21 Ebr 2004 9:34 pm

Postiogan Leusa » Mer 21 Ebr 2004 10:13 pm

"Hi, welcome to Book Surf, the online store that brings Welsh books to the world. Have you got a friend who wants a Welsh book for his or her birthday? Do you want to read the book that inspired the tv series Pam Fi Duw? Well you've come to the right place. Please enjoy your visit to the website and feel free to contact us if you have any queries."

Helo! Croeso i Book Surf, y siop arlein sy'n gwerthu llyfrau Cymraeg. Oes gen ti ffrind sydd eisiau llyfr Cymraeg ar ei ben/phenblwydd? Wyt ti eisiau darllen y llyfr a ysbrydolodd y gyfres deledu 'Pam Fi Duw?'. Wel dyma'r lle i chi! Mwynhewch eich ymweliad i'r wefan, a peidiwch ac oedi i gysylltu gyda ni gyda'ch ymholiadau.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan welshie » Mer 21 Ebr 2004 10:21 pm

diolch yn fawr :)
welshie
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Mer 21 Ebr 2004 9:34 pm

Postiogan Leusa » Mer 21 Ebr 2004 10:22 pm

croeso.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 22 Ebr 2004 8:59 am

Hmmm, pa mor hwntwaidd gaf i fod, ysgwn i?

"Hi, welcome to Book Surf, the online store that brings Welsh books to the world. Have you got a friend who wants a Welsh book for his or her birthday? Do you want to read the book that inspired the tv series Pam Fi Duw? Well you've come to the right place. Please enjoy your visit to the website and feel free to contact us if you have any queries."

"Helo, croeso i Book Surf, y siop arlein sy'n cynnig llyfrau Cymru (hmmm, ai Welsh o Gymru neu Welsh iaith Gymraeg yw'r ystyr?) i'r byd. Oes gennych chi gyfaill sydd am gael llyfyr Cymraeg ar gyfer ei benblwydd? Ydych chi am ddarllen y llyfr a ysbrydolodd y gyfres deledu 'Pam Fi Duw?'. Wel, rydych chi yn y lle iawn. Mwynhewch eich ymweliad a^'r wefan a pheidiwch ag oedi i gysylltu a^ ni os oes gennych unrhyw ymholiadau." Yffach. :D
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Jeni Wine » Iau 22 Ebr 2004 12:25 pm

fi rwan, fi rwan!!!

Helo, croeso i Book Surf, y siop arlein sy'n cynnig llyfrau Cymru i'r byd. Oes gennych chi gyfaill sydd am gael llyfr Cymraeg ar ei ben-blwydd? Ydych chi am ddarllen y llyfr a ysbrydolodd y gyfres deledu 'Pam Fi Duw?'. Wel, rydych chi yn y lle iawn. Mwynhewch eich ymweliad â'r wefan a pheidiwch ag oedi i gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 22 Ebr 2004 12:36 pm

Jeni Wine a ddywedodd:ben-blwydd


Swot. :winc:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan mam y mwnci » Iau 22 Ebr 2004 12:55 pm

Jeni Wine a ddywedodd:fi rwan, fi rwan!!!

Helo, croeso i Book Surf, y siop arlein sy'n cynnig llyfrau Cymru i'r byd. Oes gennych chi gyfaill sydd am gael llyfr Cymraeg ar ei ben-blwydd? Ydych chi am ddarllen y llyfr a ysbrydolodd y gyfres deledu 'Pam Fi Duw?'. Wel, rydych chi yn y lle iawn. Mwynhewch eich ymweliad â'r wefan a pheidiwch ag oedi i gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.

da iawn , ond tydw i ddim yn siwr am 'rydych chi yn y lle iawn' be am gynnig rhywbeth arall? fedrai'm meddwl.
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Dwlwen » Iau 22 Ebr 2004 1:34 pm

mam y mwnci a ddywedodd:tydw i ddim yn siwr am 'rydych chi yn y lle iawn' be am gynnig rhywbeth arall?


Dyma'r lle i chi?
Y wefan hon yw'r lle i chi?
Na chwilier mwy....


am gawslyd!

Sdim lot o wahaniaeth rhwng fresiynau'r De a'r Gogledd, os e?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Mr Gasyth » Iau 22 Ebr 2004 1:45 pm

Gog:
'S'mai cont, croeso i Book Surf, y ganolfan siopio ar-lein sy'n dod a llyfra Cymraeg i'r byd. Sgen ti fe^t sy ffansi llyfr Cymraeg ar i ben-blwydd? Ti am ddarllen y llyfr nath ysbrydoli'r gyfres deledu Pam Fi Duw? Wel ti'n lle iawn ia cont. Gobeithio nei di fwynhau'r wefan ia, a cofia gysylltu os sgen ti gwestiynna ia cont.'

De:
'Hi, welcome to Book Surf, the online store that brings Welsh books to the world. Have you got a friend who wants a Welsh book for his or her birthday? Do you want to read the book that inspired the tv series Pam Fi Duw? Well you've come to the right place. Please enjoy your visit to the website and feel free to contact us if you have any queries."

Sori, dwi mewn mwd gwirion heddiw. Dwi'm meddwl ma stopio smocio di'r bai.
Welshie, paid defnyddio'r un Gog yna!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron