cyfiaethu

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dwlwen » Iau 22 Ebr 2004 2:16 pm

ahem, yn lle

Aled a ddywedodd:De: 'Hi, welcome to Book Surf, the online store that brings Welsh books to the world. Have you got a friend who wants a Welsh book for his or her birthday? Do you want to read the book that inspired the tv series Pam Fi Duw? Well you've come to the right place. Please enjoy your visit to the website and feel free to contact us if you have any queries."



gai awgrymu,

Wel helo shwd y'fe? Neis i'ch gweld chi yn i Book surf - y siop ar-lein sy'n wpo llyfre Cymraeg ar y map/ glo^b. Sda chi ffrind fe'n lico llyfr Cymraeg am 'i ben-blwydd? Chi am dowli pip ar y llyfr o'n sbardun i'r gyfres Pam fi Duw? Wel, co chi'n y lle iawn! Joiwch ymweld a'r wefan; pidwch bo'n ofn gofyn os os 'da chi gwestiwn. Chi mo'yn disgled?

ond paid defnyddio hynna chwaith Welshie
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan brenin alltud » Iau 22 Ebr 2004 2:19 pm

Gweld dim yn bod ar un Leusa fy hun, heblaw'r ymweliad â yn lle i, a 'peidiwch ag oedi' yn lle'r 'ac oedi'.

Tip bach - mae dweud 'Mae croeso i chi gysylltu...' wastad yn well na 'Peidiwch ag oedi cyn cysylltu' sy'n dod yn syth o'r Saesneg. :winc:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Re: cyfiaethu

Postiogan Gwyddno » Gwe 07 Mai 2004 12:09 pm

welshie a ddywedodd:"Hi, welcome to Book Surf, the online store that brings Welsh books to the world. Have you got a friend who wants a Welsh book for his or her birthday? Do you want to read the book that inspired the tv series Pam Fi Duw? Well you've come to the right place. Please enjoy your visit to the website and feel free to contact us if you have any queries."


1) ("standard" southern)
Helo, croseo i Book Surf, y siop ar-lein sy'n dod â llyfrau Cymreig (Cymraeg if written in Welsh, Cymreig if also in English) i'r byd. Oes gyda ti ffrind sydd eisiau llyfr Cymraeg(/Cymreig) ar gyfer ei ben-blwydd? Wyt ti eisiau darllen y llyfr a ysbrydolodd y gyfres deledu Pam Fi Duw? Wel rwyt ti yn y lle iawn. Mwynha dy ymweliad â'r wefan a chofia cysylltu â ni os oes unrhyw gwestiynau gyda ti.

2) ("hwntw" southern)
Shwmae, croeso i Book Surf, y siop ar-leion sy'n dod â llyfrau Cymraeg i'r byd. Oes 'da ti ffrind sy mo'yn llyfr Cymraeg ar gyfer ei ben-blwydd? Wyt ti mo'yn darllen llyfr y gyfres Pam Fi Duw? Wel ti yn y lle iawn. Joia dy hun ar y wefan - a chofia cysylltu â ni os oes 'da ti unrhyw gwestiynau.

Dau gynnig bach, digon tebyg i gynigion pawb arall am wn i. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 23 Ebr 2004 10:02 pm
Lleoliad: Ty ar y Mynydd

Postiogan Aran » Gwe 07 Mai 2004 1:26 pm

diolch i Aled a Dwlwen am y cyfraniadau gorau i mi ddarllen ers sbel... :lol:

[un Aled sy'n iawn, wrth gwrs... :winc: ]
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron