Spoilers

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Spoilers

Postiogan Barbarella » Llun 26 Ebr 2004 1:52 pm

Newydd feddwl wrth olygu teitl edefyn bod angen cyfieithiad da o "spoilers" (hynny yw, manylion am stori ffilm, llyfr ayyb sy'n "sbwylio'r" profiad i bobl sydd heb ei gweld/darllen/ayyb).

Mae "sboilwyr" bach yn ddiog yntydi?

Ond mae angen rhywbeth sy ddigon eglur ar gyfer pobl sy ddim yn gyfarwydd â'n gair newydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 26 Ebr 2004 2:06 pm

Sarnwyr?
Difethwyr?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan brenin alltud » Llun 26 Ebr 2004 2:15 pm

Syniade:

*datgelu plot*

*difetha'r stori*

*difethwyr (plot/stori)*

*datgelu gormod*
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Re: Spoilers

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 26 Ebr 2004 2:17 pm

Barbarella a ddywedodd:Newydd feddwl wrth olygu teitl edefyn bod angen cyfieithiad da o "spoilers" (hynny yw, manylion am stori ffilm, llyfr ayyb sy'n "sbwylio'r" profiad i bobl sydd heb ei gweld/darllen/ayyb).

Mae "sboilwyr" bach yn ddiog yntydi?

Ond mae angen rhywbeth sy ddigon eglur ar gyfer pobl sy ddim yn gyfarwydd â'n gair newydd!


Rhaid gweud mai dim ond yn ddiweddar y sylweddolais i beth oedd *sboilwyr* yn ei olygu, felly mae'r cyfieithiad yn rwtsh llwyr. Unrhyw un o'r uchod gan y Brenin yn iawn am wn.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan nicdafis » Llun 26 Ebr 2004 4:28 pm

Hm, fel un o'r rhai diog, mae fy <strike>fôt</strike> mhleidlais i yn mynd i *difethwyr* - rhaid cofio bod gofod yn brin mewn teitlau edeifion, felly rhywbeth sy'n gweithio ar ei ben ei hun yn well nag ymadrodd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 26 Ebr 2004 4:38 pm

Wel, edrych fel ei fod mewn defnydd yn barod :winc: , ac ar ei ffurf arall!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai