Ansoddeiriau cyn yr enw: gwahanol, amrywiol....

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ansoddeiriau cyn yr enw: gwahanol, amrywiol....

Postiogan Mr Gasyth » Iau 06 Mai 2004 3:46 pm

On i'n meddwl mai'r unig ansoddair oedd yn dod cyn yr enw yn Gymraeg oedd 'hen'. Ond wrth gyfieithu dwi di canfod fy hun yn naturiol yn rhoi 'gwahanol' ac 'amrywiol' o flaen yr enw hefyd. Ma'n swnio'n gywir ar ol yr enw hefyd, ond yn fwy naturiol cynt.

Be sy'n iawn? Oes na fwy o enghreifftiau?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Treforian » Iau 06 Mai 2004 6:20 pm

Dw i'n meddwl bod pob un ansoddair yn iawn cyn y gair ond braidd yn henffash. Barn arall??
Treforian
 

Postiogan Sis » Iau 06 Mai 2004 6:37 pm

Ma' R.Williams Parry yn rhoi ansoddeiriau tu flaen yr enw yn ei barddoniaeth e.e "anhreiliedig haul". Falle taw jyst iaith barddonol yw hwnna?!?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Sis
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 7:15 pm
Lleoliad: Llanfihangel

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 07 Mai 2004 9:23 am

Ie, dwi'n dallt fod posib rhoi unrhyw ansoddair o flaen yr enw mewn arddull farddonol - ma'n tynnu sylw at yr ansoddair tydi. Ond i fi ma rhain yn swnio'n fwy 'normal' o flaen yr enw. Cymharwch:

Roedd sawl gwahanol math o ddefaid yn y cae
a
Roedd sawl math gwahanol o ddefaid yn y cae

Mae Bob wedi ymweld ag amrywiol lefydd ar ei daith
a
Mae Bob wedi ymweld a llefydd amrywiol ar ei daith

I fi, ma nhw i gyd yn swnio'r un mor naturiol, heb i'r un fod yn fwy 'barddonol' na'r llall. A wellai ddim gwahanol ystyron iddyn nhw chwaith.

Ma hyn yn buggio fi wan!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan sian » Gwe 07 Mai 2004 9:47 am

Fel arfel mae ansoddair yn dilyn enw e.e. bachgen da; llyfr mawr.

Ond mae rhai ansoddeiriau'n dod o flaen yr enw e.e. prif;
Weithiau mae safle'r ansoddair yn newid yr ystyr - e.e. unig ferch; merch unig.
Mae rhai ymadroddion "set" lle mae'r ansoddair yn dod gyntaf "brith gof"
Mewn iaith ffurfiol neu farddonol mae'n gallu digwydd hefyd.


Mae disgrifiad llawnach yn Gramadeg y Gymraeg - Peter Wynn Thomas paragraff 4.77etc ; Elfennau Gramadeg Cymraeg - Stephen J Williams, par 53; Gramadeg Cymraeg Cynhwysfawr - David A Thorne, par 51 a 191
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 07 Mai 2004 10:45 am

Oes yna wahaniaeth ystyr neu naws ta rhwng:
gwahanol lefydd
a
llefydd gwahanol
?

ella bod, ond allai'm rhoi fy mys arno fo.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Chwadan » Gwe 07 Mai 2004 12:26 pm

Aled a ddywedodd:Oes yna wahaniaeth ystyr neu naws ta rhwng:
gwahanol lefydd
a
llefydd gwahanol
?

ella bod, ond allai'm rhoi fy mys arno fo.

Dwi'n meddwl mai'r unig wahaniaeth ydi'r pwyslais, h.y. yn "gwahanol lefydd", y ffaith eu bo nhw'n wahanol sy'n bwysig, ac yn "llefydd gwahanol", ma'r pwyslais ar y ffaith fod na fwy nag un lle.

Ella.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 07 Mai 2004 12:48 pm

I fod yn bedant bach, Aled, 'amryw lefydd' sy'n gywir, nid 'amrywiol lefydd'. Ond sai'n gwbod pam... :rolio:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 07 Mai 2004 12:51 pm

GDG a ddywedodd:I fod yn bedant bach, Aled, 'amryw lefydd' sy'n gywir, nid 'amrywiol lefydd'. Ond sai'n gwbod pam...


Eh? Onid ydi 'amrywiol' yn awgrymu fod mwy o wahaniaeth rhwng y llefydd nag y mae 'amryw'. Amrywiol =(ish) gwahanol, Amryw =(ish) niferus.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai