Be da chi'n recno ynglyn a gneud yr enwau uchod yn rhai swyddogol - wedi'r cyfan faint o bobl glywoch chi yn defnyddio'r enwau Abermaw a Llanbedr Pont Steffan? Efallai fod y drefn bresennol yn gyrru mwy o bobl i ddefnyddio'r fersiynau seusneg. Bermo yw'r unig dre/pentref yng ngwynedd gyda dau enw - pa ffordd gwell i ddileu hynny nag i sticio at un enw sef Bermo - pam roi mewn i'r brymis efo ryw Barmouth (do'n i ddim yn ymwybodol o unrhyw afon 'Bar' sydd a'i 'mouth' yn, neu'n agos at, Bermo)
(Fyswn i'n licio ymddiheuro o flaen llaw i Nici os nad yw'r neges hon yn cydymffurfio a'r safonau uchel mae'n eu disgwyl ac yn wir yn eu mynu.)