Cymedrolwr: Gwen
LowRob a ddywedodd:Dwi'n cytuno hefo Geraint (bechod, peidiwch â bod yn gas iddo!), Trallwm bydda i'n dweud heddiw, a phawb arall dwi'n nabod yn yr ardal ma. Does na unrhyw un Cymraeg yn byw yn y lle, felly Welshpool bydd o i'r trigolion lleol!
Cwlcymro a ddywedodd:Ar y pwnc o newid enwa llefydd, be di'r crac efo Llanfairpwll - mae'r enw di newid yn swyddogol ers blynyddoedd ond ma pwy bynag oedd y dyns nath yr arwydd newydd ar yr A55 wedi penderfynnu newid enw'r lle i Llanfair-pwllgwingyll.
Pam? Be di'r enw swyddogol wan? Llanfairpwll, LlanfairPG, Llanfairpwllgwingyll.............etc etc?
Meiji Tomimoto a ddywedodd:Mae'n broblem ddyrus yndi. Fatha Y Fali yn sir fon - 'di o ddim i neud efo "Dyffryn" - Mae'n dod o "Bally" o'r Wyddelig am fod yna gymaint o Wyddelod yn byw yno pan oedden nhw'n adeiladu cob Caergybi.
Machlud Jones a ddywedodd:Cwlcymro a ddywedodd:[\quote]Ar y pwnc o newid enwa llefydd, be di'r crac efo Llanfairpwll - mae'r enw di newid yn swyddogol ers blynyddoedd ond ma pwy bynag oedd y dyns nath yr arwydd newydd ar yr A55 wedi penderfynnu newid enw'r lle i Llanfair-pwllgwingyll.
Llanfair fyddai'n ei alw'n bersonol, ond mae na bobol wahanol yn ei alw'n wahanol bethau. Yn bersonol, y rhai mwyaf poblogaidd fyddai'n glywed ydi Llanfairpwll, neu Llanfair P.G.Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:Ia siwr, chdi sy'n od!
Dwnim am y busnas newid enwa ma de. Ma Aberffraw wedi mynd yn Berffro, Abermaw yn Bermo... bla bla bla. Ond ar lafar ma hynny de. Mae o bron fatha deud "O, duwcs, 'sa neb yn deud Abertawe ddim mwy, waeth i ni i gyd alw fo'n Swansea ddim".
Cardi Bach a ddywedodd:Abertwe ma siaradwyr Cymrag cynhenyd yr ardal yn ddweud am Abertawe, a fel wedodd Clarice Llambed yw Llanbedr Pont Steffan (a yn ol teulu sydd yno ma Geraint yn iawn am Trallwm).
Ymhen hir a hwyr ma enwe yn esblygu ac yn newid.
Wy ddim yn erbyn y syniad o wneud hyn yn swyddogol.
Ble ma tynnu'r llinell? Matre i'r awdurdode a grwpiau pwyso
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 46 gwestai