DyfiActive - cyfieithiad?

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

DyfiActive - cyfieithiad?

Postiogan mred » Gwe 14 Mai 2004 11:24 am

Dwi'n chwilio am gyfieithiad o DyfiActive, sef grŵp sy'n cyfuno darparwyr gweithgareddau (megis beicio mynydd), a darparwyr llety ar gyfer pobl sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn.

Dydi rhywbeth fel 'Dyfi'n Mynd' ddim yn gwneud y tro, gan bod awgrym yn hwnnw mai ardal (a phobl) Dyffryn Dyfi yn unig sy'n gwneud y gweithgareddau.

Y ddau enw gorau sy gynna'i hyd yn hyn ydi 'Dyfi ar Wib' (nad ydi o'n gwbl addas, gan y byddai'r gweithgareddau'n cynnwys cerdded), neu 'Gweithgareddau Dyfi', sydd braidd yn ddi-fflach.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 14 Mai 2004 12:46 pm

Wel ma Snowdonia Active yn defnyddio 'Eryri Bywiol'.
Ddim yn siwr amdano fy hun, 'Dyfi Fywiog' yn well ella?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dylan » Gwe 14 Mai 2004 1:11 pm

'Dydi Bywiol ddim yn gwneud synnwyr yn y cyd-destun yna. Bywiog yn lot gwell, ydi.

Dyfi Bywiol = Living Dyfi Delwedd

Dyfi Bywiog = Lively Dyfi Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan nicdafis » Gwe 14 Mai 2004 1:32 pm

DyfiAmdani :?:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan mred » Gwe 14 Mai 2004 1:38 pm

Diolch. Ia, mi ydan ni wedi ystyried y posibiliad yma, 'Dyfi Fywiog' (mae Dyfi'n fenywaidd), ond dwi'm yn gweld 'Bywiog' yn iawn yn y cyd-destun yma rywsut.

Ella bod 'bywiog' yn hanesyddol wedi ei ddefnyddio ar gyfer bodau byw, ac nad ydi ei gyplysu efo enw lle yn taro deuddeg. Mae teimlad enw wedi'i gyfieithu, annaturiol iddo beth bynnag. Fi sy'n bod yn ffysi mae'n siŵr! :rolio:

DyfiAmdani'n ddiddorol...gobeithio na fyddi isio peth o'r tâl cyfieithu!
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Dylan » Gwe 14 Mai 2004 2:03 pm

mred a ddywedodd:Diolch. Ia, mi ydan ni wedi ystyried y posibiliad yma, 'Dyfi Fywiog' (mae Dyfi'n fenywaidd),


wps :wps:

hmm...Amdani yn dda. Swnio'n reit fachiog. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan mred » Maw 18 Mai 2004 1:34 am

Ia, mi fyswn i wedi disgwyl i chi draw yng Nghofiland fod yn gyfarwydd â mutations. :winc:

Dyfi Amdani wedi'i gymeradwyo - diolch Nic!
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron