swt i ddweud impressed a assumed

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

swt i ddweud impressed a assumed

Postiogan aderynglas » Gwe 14 Mai 2004 5:01 pm

Gall unrhywun helpu fi?

Swt basech chi'n dweud hyn yn y Gymreag;

'I was impressed with...' 'It was impressive'

'I assumed he was coming' 'he made an assumption'

Dwi wedi clywed pobl yn defnyddio y geirau saesneg ond hoffwn gwbod os mae'r ffordd iawn o ddweud yr un pethau yn y Gymreag

Diolch yn fawr
Rhithffurf defnyddiwr
aderynglas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 29 Ebr 2004 7:17 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys » Gwe 14 Mai 2004 5:19 pm

dau gwestiwn da aderyn... :?

ddim yn siwr am 'impressed'

ond gyda 'assume/assumed' byddwn yn dweud

dwi'n cymeryd ei fod yn dod - I assume he's coming
cymerais i ei fod yn dod - I assumed he was coming

dwi'n gwbod nad ydi hynnu yn ateb dy gwestiwn i gyd a mae'n siwr daw rhywun arall gyda awgrymiad arall ar sut i'w ddweud, fel ti'n siwr o fod wedi dod ar draws o'r blaen gyda'r Gymraeg :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 14 Mai 2004 5:20 pm

Cafodd... argraff dda arnaf i...

Cymerais yn ganiataol ei fod yn dod...
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan eusebio » Gwe 14 Mai 2004 8:32 pm

beth am cymryd yn ganiataol am assumed?

O ran impressed, dwi'm yn credu bod modd defnyddio un gair penodol - mae siomi ar yr ochr orau yn gweithio weithiau.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Dylan » Sad 15 Mai 2004 12:55 pm

"tybio" 'dw i yn ei ddefnyddio am assume
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: swt i ddweud impressed a assumed

Postiogan brenin alltud » Llun 17 Mai 2004 9:37 am

aderynglas a ddywedodd:'I was impressed with...' 'It was impressive'


Fe wnaeth.... gryn argraff arna i

Roedd e'n drawiadol/ganmoladwy

aderynglas a ddywedodd:'I assumed he was coming'
'he made an assumption'


Ro'n i'n tybio ei fod am ddod / e'n dod (fel Dylan)
Fe benderfynodd e / ddaeth e i'r casgliad / ei ddamcaniaeth e oedd mai...


Syniadau'n unig, cofia. :winc:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai