Dwi wastad wedi sillafu'r gair fel cymryd, ond bob dydd bellach dwi'n gweld 'e' yn ymddangos (gwelwch edefyn cymeryd y bai) , a nid yn unig ar maes-e ond ym mhobman.
Dwi'n eistedd mewn swyddfa ddi-eiriadur ac yn gofyn - oes 'e' mewn cymryd?
Cymedrolwr: Gwen
mam y mwnci a ddywedodd:Dwi'n eistedd mewn swyddfa ddi-eiriadur ac yn gofyn - oes 'e' mewn cymryd?
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Cymryd yw'r ffurf gywir, ond yr hyn rwy' wedi'i ddysgu yw dy fod di'n ychwanegu'r e at wahanol ffurfiau'r ferf - e.e. cymerodd, cymerais ac ati.
Ond nid cymeryd.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai