Esboniadau annisgwyl/diddorol ar enwau lleoedd

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gwen » Llun 24 Mai 2004 7:13 pm

mred a ddywedodd:Roedd y lle'n seintwar, ac yn dipyn o ganolfan ar gyfer gwylliaid/troseddwyr, yn ôl Syr John Wynn o Wydir (gallaf ganfod y dyfyniad/cyfeiriad perthnasol os oes diddordeb).


Ond dy fod wedi clywed hyn hefyd gan Huw Derfel o bosib? :lol: . - ar dudalen 85 os dwi'n iawn...

Roedd y dehongliad 'Nant Afangcon' ma'n gyffredin iawn tua diwedd y 19G - enwau barddol fel Afangcon, Bardd Afangc a ballu. A wedyn, mi fuo na anfarth o byst-yp ym Mhendinas ac Ifor Williams yn cael ei dorri allan o'r wyllys am fynd yn groes a ballu. (Gweler t. 224).

Be nei di o draddodiad Foty'r Famaeth, Mred? Dio'n ffitio hefo traddodiadau eraill am fywyd cynnar Twm Sion Cati?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gowpi » Mer 26 Mai 2004 3:09 pm

brenin alltud a ddywedodd:Mae'n siwr y dylwn i wybod hyn, ond...

Be' yw'r eglurhad tu nôl Pont-ar-Sais, te?



Sbel fach yn ol (rhai canrifoedd) cafodd Sais odd ar ei geffyl ei fwrw bant ohono a'i ladd gan gleddyf hir yn yr union fan gan Gymro. 'Na pam. :?

Weloch chi'r eitem newyddion sbel fach yn ol yn nodi enwau llefydd mwyaf lletchwith i'w weud yn y byd, un yn Seland Newydd, un yn ne Affrica, a'r trydydd yw ........ Eglwyswrw yn sir Benfro! Wnaeth neb weud ar yr eitem mai'r enwau anoddaf i'r Anglos o'n nhw'n ei feddwl :rolio: 'chos fi'n gallu ei weud yn rhwydd iawn 8)
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan S.W. » Mer 26 Mai 2004 3:19 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Wy'n cofio mai'r un gwraidd sydd i Prestatyn a Preston ac mai enw saesneg yw e (fel Rhyl - Yr Hill neu rwbeth aie?)


Dim yn gwbod yr ystyr ond mae Preston Westham a Wrecsam i gyd yr un tarddiadau.

Cerrigydrudion - dwin cymryd mae Stones of the Druids maen ei feddwl, ond dwi erioed di dod ar draws cerrig o'r disgrifiad hwn yn yr ardal.

Be am Gwyddelwern rhwng Rhuthun a Corwen? Oes hanes o Wyddel yn perthyn ar ddarn o wern (tir corsiog dwin meddwl) yn yr ardal?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Meic P » Mer 26 Mai 2004 3:27 pm

Glywsoch chi'r stori am ystyr yr enw Tydweiliog (pentre yn Mhen Llyn)

Wel yn ol y son, canrifoedd yn ol roedd na Sant yn pasio trwodd (ar bererindod i Enlli siwr o fod) gan hebrwng mul bach o'r enw Weiliog.
Wrth gerdded trwy darn dani'n ei nabod rwan fel Tydweiliog, stopiodd y mul gerdded. Clwywyd y Sant yn ei annog trwy ddweud "Tyrd Weiliog!"

Gwir pob gair :winc:
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan Dan Dean » Mer 26 Mai 2004 3:54 pm

Meic P a ddywedodd:Glywsoch chi'r stori am ystyr yr enw Tydweiliog (pentre yn Mhen Llyn)

Wel yn ol y son, canrifoedd yn ol roedd na Sant yn pasio trwodd (ar bererindod i Enlli siwr o fod) gan hebrwng mul bach o'r enw Weiliog.
Wrth gerdded trwy darn dani'n ei nabod rwan fel Tydweiliog, stopiodd y mul gerdded. Clwywyd y Sant yn ei annog trwy ddweud "Tyrd Weiliog!"

Gwir pob gair :winc:


Jiw jiw, doeddwn i ddim yn gwbod hynnu, a finna'n byw mor agos. :wps:
Sdori dda fyd! :winc:
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan mred » Mer 26 Mai 2004 11:58 pm

Gwen a ddywedodd:Ond dy fod wedi clywed hyn hefyd gan Huw Derfel o bosib? :lol: . - ar dudalen 85 os dwi'n iawn...

Roedd y dehongliad 'Nant Afangcon' ma'n gyffredin iawn tua diwedd y 19G - enwau barddol fel Afangcon, Bardd Afangc a ballu. A wedyn, mi fuo na anfarth o byst-yp ym Mhendinas ac Ifor Williams yn cael ei dorri allan o'r wyllys am fynd yn groes a ballu. (Gweler t. 224).

Be nei di o draddodiad Foty'r Famaeth, Mred? Dio'n ffitio hefo traddodiadau eraill am fywyd cynnar Twm Sion Cati?

Hmmm...na wir, es i ddim pellach na thud.62, diarhebion Dyffryn Ogwen - well i Jeremy Clarkson :drwg: et al. beidio â gweld yr ail o'r gwaelod! (Wedi bod i ffwrdd yn gwersyllu mewn pabell maint arch gwybedyn, nid yn chwilio hen lyfrau i wrthbrofi dy gyhuddiad. Ta waeth am hynny...)
Dyma'r dyfyniad o 'History of the Gwydir Family', Syr John Wynn, tud.53-54
When warres did happen to cease in Hiraethog the countrey adioyninge to Nantconway, there was contynually fostered a wasps nest w'ch trowbled the wholle countrey, I meane a Lo : belonginge to St.Johns of Jerusalem called Spytty Evan a lardge thinge, w'ch had priviledge of sanctuarie a peculiar iurisdiction not governed by the kings lawes, a receptacle of theives and murtherers whoe safely beinge warranted there by lawe, made the place throughlie peopled, noe place within twentye myle about was safe from their incursions and robberie, what they gott within their limittes was there owne, they had to their backestaye, freinds and receptors, all the countie of Merionyth and Powys land. These helpinge the former desolations of Nantconway and prayinge upon that countrey as their next neighboures kept most p'te of that countrey all wast and without inhabitant.

Heb ailddarllen yr History, mae gennyf gof ei fod yn sôn bod Nanconwy ac ardaloedd cyfagos wedi parhau'n lleoedd peryglus iawn i'r awdurdodau ymhell wedi oes Glyn Dŵr. Y sirydd yn gorfod cael gosgordd i'w amddiffyn ayb.

A hefyd map OS, Monastic Britain, dalen ddeheuol. Ysbyty Ifan a Slebech, Sir Benfro (beth ydi tarddiad hwnnw?) oedd unig sefydliadau Marchogion yr Ysbyty yng Nghymru, yn ôl hwn.

Fedri di ymhelaethu ar y cyfeiriadau yn y gwaelod - swnio'n ddiddorol!
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan pads » Gwe 28 Mai 2004 2:15 pm

Ym Mro Morgannwg mae Tresimwn, Bonvilston yn Saesneg, ar ô Simon de Bonville. Am rhyw reswm roedd y Cymry ar first name terms.
Rhithffurf defnyddiwr
pads
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 249
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 9:22 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys » Gwe 28 Mai 2004 3:00 pm

Unrhywun gyda syniad beth yw tarddiad enw Tafarn-y-Gelyn sydd ddim yn bell o Moel Famau? Wasted yn meddwl i fi fy hyn pam, pan dwi'n gyrru heibio.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Barbarella » Gwe 28 Mai 2004 3:24 pm

mred a ddywedodd:(3) Mae'r enw Solfach wrth gwrs i'w gael yn Sir Benfro. Ond ceir yr enw Porth Solfach yn Ynys Enlli, a fferm o'r enw Solfach ar y tir mawr gyferbyn. Ai Gwyddeleg 'Saileach' (Helyg) sydd yma?

Os dwi'n cofio'n iawn, Solva ydi enw gwreiddiol y lle (fersiwn wedi ei Gymreigio yw Solfach), a dyna pam mai "Solva" fydd Meic Stevens yn dweud!

Mae tarddiad yr enw yn Llychlynaidd -- roedden nhw'n hwylio rownd yr ardal yna yn reit aml, ac wedi rhoi enwau ar sawl lle yn ne sir Benfro -- Skomer, Skokholm, Caldey, er enghraifft. Mae'n siwr bod nhw di ymweld ag ynys Enlli hefyd!

Ystyr Solva yw 'sunny inlet' mae'n debyg.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan mred » Sad 29 Mai 2004 10:48 am

Barbarella a ddywedodd:
mred a ddywedodd:(3) Mae'r enw Solfach wrth gwrs i'w gael yn Sir Benfro. Ond ceir yr enw Porth Solfach yn Ynys Enlli, a fferm o'r enw Solfach ar y tir mawr gyferbyn. Ai Gwyddeleg 'Saileach' (Helyg) sydd yma?

Os dwi'n cofio'n iawn, Solva ydi enw gwreiddiol y lle (fersiwn wedi ei Gymreigio yw Solfach), a dyna pam mai "Solva" fydd Meic Stevens yn dweud!

Mae tarddiad yr enw yn Llychlynaidd -- roedden nhw'n hwylio rownd yr ardal yna yn reit aml, ac wedi rhoi enwau ar sawl lle yn ne sir Benfro -- Skomer, Skokholm, Caldey, er enghraifft. Mae'n siwr bod nhw di ymweld ag ynys Enlli hefyd!

Ystyr Solva yw 'sunny inlet' mae'n debyg.

Pe byddai hyn yn wir, byddai'n enghraifft unigryw efallai o enw lle Llychlynaidd yn cael ei fabwysiadu a'i ddefnyddio gan Gymry cynhenid, yn sicr yng Ngwynedd. Sylwi ar fap o ogledd Sir Benfro ar yr enw 'Stacan Barcutan' nepell o Abereiddi (= sea stack), tystiolaeth bod un gair Llychlynaidd wedi'i fabwysiadu yn y Gymraeg yma.

Mi fuaswn i'n tybio y byddai'n rhaid cael gwladychwyr hefyd i fod wedi trosglwyddo enw lle i'r Cymry lleol - yn yr un modd ag enwau Llychlynaidd gyda gwedd Gaeleg a geir yn yr Alban. Sylwer mai enwau morwrol estron oedd y 'Skerries', 'Middle Mouse', 'Priestholm' ayb. - nid oeddynt yn cael eu defnyddio gan bobl leol.

Onid ydi hi'n fwy tebygol fodd bynnag mai fersiwn Seisnig ar 'Solfach' ydi 'Solva' - y llythyren anghyfiaith yn cael ei gollwng? Mae angen Tomos Roberts arnom mi gredaf!
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai

cron