Gwen a ddywedodd:Ond dy fod wedi clywed hyn hefyd gan Huw Derfel o bosib?
. - ar dudalen 85 os dwi'n iawn...
Roedd y dehongliad 'Nant Afangcon' ma'n gyffredin iawn tua diwedd y 19G - enwau barddol fel Afangcon, Bardd Afangc a ballu. A wedyn, mi fuo na anfarth o byst-yp ym Mhendinas ac Ifor Williams yn cael ei dorri allan o'r wyllys am fynd yn groes a ballu. (Gweler t. 224).
Be nei di o draddodiad Foty'r Famaeth, Mred? Dio'n ffitio hefo traddodiadau eraill am fywyd cynnar Twm Sion Cati?
Hmmm...na wir, es i ddim pellach na thud.62, diarhebion Dyffryn Ogwen - well i Jeremy Clarkson
et al. beidio â gweld yr ail o'r gwaelod! (Wedi bod i ffwrdd yn gwersyllu mewn pabell maint arch gwybedyn, nid yn chwilio hen lyfrau i wrthbrofi dy gyhuddiad. Ta waeth am hynny...)
Dyma'r dyfyniad o 'History of the Gwydir Family', Syr John Wynn, tud.53-54
When warres did happen to cease in Hiraethog the countrey adioyninge to Nantconway, there was contynually fostered a wasps nest w'ch trowbled the wholle countrey, I meane a Lo : belonginge to St.Johns of Jerusalem called Spytty Evan a lardge thinge, w'ch had priviledge of sanctuarie a peculiar iurisdiction not governed by the kings lawes, a receptacle of theives and murtherers whoe safely beinge warranted there by lawe, made the place throughlie peopled, noe place within twentye myle about was safe from their incursions and robberie, what they gott within their limittes was there owne, they had to their backestaye, freinds and receptors, all the countie of Merionyth and Powys land. These helpinge the former desolations of Nantconway and prayinge upon that countrey as their next neighboures kept most p'te of that countrey all wast and without inhabitant.
Heb ailddarllen yr History, mae gennyf gof ei fod yn sôn bod Nanconwy ac ardaloedd cyfagos wedi parhau'n lleoedd peryglus iawn i'r awdurdodau ymhell wedi oes Glyn Dŵr. Y sirydd yn gorfod cael gosgordd i'w amddiffyn ayb.
A hefyd map OS, Monastic Britain, dalen ddeheuol. Ysbyty Ifan a Slebech, Sir Benfro (beth ydi tarddiad hwnnw?) oedd unig sefydliadau Marchogion yr Ysbyty yng Nghymru, yn ôl hwn.
Fedri di ymhelaethu ar y cyfeiriadau yn y gwaelod - swnio'n ddiddorol!