Cymedrolwr: Gwen
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:I unrhyw un sydd am wybod (ffycin neb), ystyr 'Pontllanfraith' yw 'pont dros y llyn brith', sy'n cyfeirio at y gored afiach yr olwg ar yr afon... ac ystyr y Coed-duon yw'r ffaith i'r coed gael eu defnyddio ar gyfer golosg wrth gynhyrchu haearn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r enw gwreiddiol oedd 'Trenewydd yn y Coed Duon'... ond chi gyd yn dod o fannau erill, fel y gorllewin,. a'r gogledd, nid y de ddwyrain... dim diddordeb... ffycyrs...
gronw a ddywedodd:mred a ddywedodd:(2) Ffrancon (Nant Ffrancon, ger Bethesda). Fy nhyb ydi mai yr un ydi hwn â Gwrangon
Dwi'n cofio clywed/darllen yn rhywle fod gwersyll milwrol Normanaidd yn Nant Ffrancon, ac mai dyna'r rheswm dros yr enw - bod Ffrancon yn ffurf arall ar Ffrancod. Ond falle mod i'n dychmygu...
Nant Ffrancon a ddywedodd:Nant Ffrancon ydy enw'r dyffryn yn Eryri sy'n ymestyn i fyny o Fethesda at y bwlch rhwng Tryfan a Phen yr Ole Wen ym mhen Llyn Ogwen. Yn ôl Syr Ifor Williams, yn ei glasur bychan o lyfr ar Enwau Lleoedd, hen, hen air Ffranc yn golygu milwr cyflogedig ─ hynny ydy, 'mercenary' ─ sydd yma.
Ffranc, wrth gwrs, oedd yr enw ar y bobl Germanaidd hynny a goncrodd dir Gâl tua'r flwyddyn 500, a rhoi ei henw i wlad Ffrainc ─ ac i Ffrancod.
Roedd rhai o'r Ffrancod Germanaidd hyn, meddai Syr Ifor, yn arfer dod drosodd i ymladd am dâl yng Nghymru yn ystod y canrifoedd cyn y Normaniaid, fwy na mil o flynyddoedd yn ôl. Ffranc oedd yr enw am un o'r milwyr estron hyn. Ffrancon oedd mwy nag un ohonyn nhw - hefo'r un terfyniad lluosog ─ on, ag sydd yn Saeson, lladron a.y.b. Mae Syr Ifor wedyn yn dyfalu fod criw o'r milwyr cyflogedig hyn, criw o Ffrancon, wedi cael eu cyflogi gan ryw bennaeth yng Ngwynedd a'u plannu yn Nant Ffrancon.
Mae'n esboniad clyfar a thebygol. Ond yn ddiweddar, mewn cylchgrawn o'r enw Notes and Queries, mae ysgolhaig o Brifysgol Navarre yn Sbaen o'r enw Andrew Breeze wedi cynnig esboniad arall. Roedd gair franca mewn Hen Saesneg yn golygu gwaywffon. Yn ôl Andrew Breeze benthycwyd y gair hwn i'r Gymraeg yn air am waywffon ─ yn union fel y benthycwyd y gair tarian o Hen Saesneg. Ystyr Nant Ffrancon, yn ôl yr esboniad yma, ydy dyffryn y gwaywffyn, ac nid dyffryn lle gosodwyd milwyr o Ffrancod.
O blaid yr esboniad hwn mae Breeze yn cyfeirio at linell mewn hen gerdd Gymraeg o tua'r flwyddyn 900. Yn honno mae arglwydd o Gymro yn eistedd o flaen callor neu grochan ac yn bwrw'i ofid. Mae wedi colli ei fyddin ac yn eistedd yno yn unig a digalon. 'Mi a'm ffranc o amgylch ein callor' meddai'r gerdd. I Syr Ifor darlun sy'n y gerdd o bennaeth o Gymro heb neb ar ôl yn gwmni ond milwr estron o Ffranc. Na, meddai Breeze. Arglwydd o Gymro sydd yma heb neb o gwbwl, dim ond ei waywffon ─ ei ffranc ─ yn gwmni iddo. Mae'n ddarlun sobor o debyg i hwnnw o Lywarch Hen, yn henwr isel ei ysbryd yn eistedd â'i bwys ar ei ffon, neu ei 'faglen bren', mewn cerdd Gymraeg arall gynnar.
NANT FRANCON; a alwyd felly oddiwrth Afancon (beaver), ac y mae yn agos i Gapel Curig "Lyn yr Afanc." ... Fodd bynnag, y mae yma yn awr nifer o ddyfrgŵn, ac ni wyr yr ysgrifenydd am y rheswm i ameu i afancwn fod yma hefyd. Sonia Taliesin yr hwn a flodeuodd yn y 6fed ganrif am Nant Ffrancon; ac nid tebygol ei bod wedi derbyn ei henw oddiwrth estron, yr hwn y mae ei enw wedi ei gysylltu a llofruddiaeth y Tywysog Llewelyn, yn Muallt, yn y drydydd ganrif-ar-ddeg. Yr oedd hefyd yn ei chwr isaf, mewn lle a elwir Ceunant, fan i groesi yr afon a elwid "Sarn yr Afanc."
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai