Cardi a ddywedodd:Wy'n cofio mai'r un gwraidd sydd i Prestatyn a Preston ac mai enw saesneg yw e (fel Rhyl - Yr Hill neu rwbeth aie?)
Ia, dwi'n meddwl fod y 'Pres' rwbeth i neud efo'r wglwys mewn rhyw ffordd ond dwi'm yn cofio be'n union.
Y Rhyl yw Yr Hill ma'n debyg, er lle ma'r bryn Duw a wyr.
Ma ne chwedl fod yr enw Dinbych yn dod o fwystfil a arferia grwydro wlad o amgylch y dre gan fod yn boen tin i'r bobl lleol. Pan y'i lladdwyd, cafodd ei gario drwy'r dre a'r dorf yn gweiddi 'Dim bych' Dim bych'!
Stori gachu os da chi'n gofyn i fi - Din bych = Dinas fach.