Builder's Merchant, Bathroom Showroom a DIY

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Builder's Merchant, Bathroom Showroom a DIY

Postiogan Rhys » Gwe 21 Mai 2004 2:38 pm

Oes agn rhywun awgrym well na Nwyddau Adeiladu ar gyfer 'Builders Merchant'?

Mae Ystafell Arddangos Ystafell Ymolchi yn non-starter
a tydi Arddangosle Ystafell Ymolchi ddim yn naturiol ofnadwy, er y gore o'r ddau.

Dwi ddim yn gwbod ble i ddechrau gyda DIY, hynny yw sut i'w gyfieithu nid sut i wneud DIY

Help!
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan brenin alltud » Gwe 21 Mai 2004 3:21 pm

Yn tybio mai arwyddion mewn siop/stad fawr fyddan nhw?
Be' am ...

Popeth i'r adeiladydd

Pethau Stafell Molchi (oes rhaid cael Stafell Arddangos?)

ac

Addurno'r Cartre'
(?? bydd rhaid edrych lan be sy' 'di cael ei roi am DIY o'r blaen :? )
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Rhys » Gwe 21 Mai 2004 3:43 pm

brenin alltud a ddywedodd:(?? bydd rhaid edrych lan be sy' 'di cael ei roi am DIY o'r blaen :? )


Syniad da, byddwn i'n mynd i B&Q a Focus yn Caerffili heno ma ond tydi'r arwyddion ddim yn ddwyieithog yno :drwg:. Ceisio darbwyllo cwmni lleol llai ydw i ar y foment, bydd rhaid i'r big boys aros
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan brenin alltud » Gwe 21 Mai 2004 3:54 pm

Bathroom Showroom - mewn teyrnged i Aled Sam ar 04 Wal, be' am

Stafell Arddangos Baddondai?

Ym, na, paid.
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron