Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati
Cymedrolwr: Gwen
gan aderynglas » Gwe 28 Mai 2004 5:11 pm
Oes ffordd naturiol o ddweud 'to get away with it' yn Gymraeg a.e 'I was lucky to get away with it'?
diolch yn fawr
-
aderynglas
- Defnyddiwr
-
- Negeseuon: 40
- Ymunwyd: Iau 29 Ebr 2004 7:17 pm
- Lleoliad: Caerdydd
gan CORRACH » Sul 30 Mai 2004 2:09 pm
Dwn im yn iawn.
Falla "lwcus i beidio cael fy nal"/"lwcus i beidio cael copsan"
-
CORRACH
- Defnyddiwr Arian
-
- Negeseuon: 894
- Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
- Lleoliad: Llyn Cwm Llwch
-
gan bartiddu » Sul 30 Mai 2004 4:13 pm
fy nghynig "doeth" i yw:-
"O'n ni'n ffodus i dod bant a'i"
-
bartiddu
- Defnyddiwr Aur
-
- Negeseuon: 2285
- Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
- Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl
gan Martin Llewelyn Williams » Sul 30 Mai 2004 6:12 pm
Dim yn siwr. Dwi'n defnyddio Geiriadur yr Academi fel arfer tra'n cyfrannu at maes-e.com- ond dim y tro yma yn anffodus...Yndi-mae o'n drwm gyda tudalennau uffernnol o dennau (1 ta 2 n?), ond mae hefyd yn wych...
-
Martin Llewelyn Williams
-
gan Chris Castle » Llun 31 Mai 2004 9:45 am
Dwi wedi edrych yn "Dweud Eich Dweud" gan Ceri Jones a dyma'r pethau agosach dwi wedi dod o'u hyd.
lwcus i'w bachu hi o 'na/'ma
= lucky to hotfoot it from there/here
lwcus i ddengyd = lucky to escape
lwcus i jengyd = lucky to escape (i hwntw)
-
Chris Castle
- Defnyddiwr Arian
-
- Negeseuon: 837
- Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am
-
gan Martin Llewelyn Williams » Llun 31 Mai 2004 3:01 pm
Hoffi cynnig Corrach yn fawr iawn-lwcus i beidio cael copsan. CYFOETH Y GYMRAEG...
-
Martin Llewelyn Williams
-
gan Martin Llewelyn Williams » Llun 31 Mai 2004 3:06 pm
Wrth gwrs,mae'n annodd cyfieithu pethau o Saesneg i Gymraeg mewn ffordd berffaith weithia. Y peth pwysica ydy fod y fersiwn Gymraeg yn swnio'n naturiol h.y. swnio'n dda i'r glust ac yn gwneud synnwyr.
-
Martin Llewelyn Williams
-
Dychwelyd i Defnydd yr Iaith
Pwy sydd ar-lein
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 34 gwestai