Oes , mae 'na rai geiriau Cymraeg yn gorffen efo 'io' . Ond faint ohonoch sydd [ fel fi ] yn defnyddio geiriau Saesneg ag adio 'io' ar y diwedd er mwyn ffurfio gair Cymraeg?
Mali.
Cymedrolwr: Gwen
Leusa a ddywedodd:'dw i'n gweld hyn yn dod yn fwy cyffredin o hyd. Mae 'na rai sydd yn cael eu defnyddio yn amlach na eraill, er engraifft dreifio yn hytrach na gyrru, a jympio yn hytrach na neidio a watchio yn hytrach na gwylio. Ydi 'crio' a 'sbio' yn dod o'r geiriau 'cry' a 'spy' tybed?!
Ond yn ddiweddar ma 'na rai lot gwaith fel sylcio (pwdu) a cêrio (poeni) ac wrth gwrs lyfio (caru).
Och ma'n hyll!
nicdafis a ddywedodd:Leusa a ddywedodd:'dw i'n gweld hyn yn dod yn fwy cyffredin o hyd. Mae 'na rai sydd yn cael eu defnyddio yn amlach na eraill, er engraifft dreifio yn hytrach na gyrru, a jympio yn hytrach na neidio a watchio yn hytrach na gwylio. Ydi 'crio' a 'sbio' yn dod o'r geiriau 'cry' a 'spy' tybed?!
Ond yn ddiweddar ma 'na rai lot gwaith fel sylcio (pwdu) a cêrio (poeni) ac wrth gwrs lyfio (caru).
Och ma'n hyll!
Ond mae dadl (a dyn ni wedi'i chael yma o'r blaen, dw i'n credu) bod geiriau fel "dreifio" yn Gymraeg erbyn hyn, yn dafodieithol ta beth. Dw i wedi clywed sawl bardd gwlad lleol yn defnyddio geiriau "Saesneg" fel hyn, ac nid jyst er mwyn odli mewn limerig.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai