A oes yna wahaniaeth rhwng defnyddio y peth "io" ma mewn ffordd geadigol, grefftus a diddorol er mwyn cyfoethoci'r Gymraeg ac yna defnyddio fo mewn ffordd ddiflas, diog...?
Tydio ddim yn gyfrinach y byddai y busnas "io" ma yn digwydd llawer llai aml ar strydoedd Cymru pe bai gennym ddiwylliant Cymraeg llai bregus...
Papurau newydd/cylchgronnau Cymraeg llawer iawn mwy poblogaidd. Sianel deledu Cymraeg go iawn yn lle slot ar Channel 4. Byddai hyn yn gwella Cymraeg pob Cymro a Chymraes! Tasg amhosibl?
Joio mas draw (chadal yr hwntws)-engraifft o Saesneg yn cyfaethoci'r Gymraeg. Faint o "io" y gellir defnyddio cyn bod y Gymraeg yn newid o fod yn iaith i fod yn dafodiaith sy'n perthyn i Saesneg?