Enwau Cymraeg ar gwrs golff.

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Enwau Cymraeg ar gwrs golff.

Postiogan Mali » Iau 03 Meh 2004 8:39 pm

Wrthi'n syrffio'r we neithiwr am wybodaeth ar golffio yng Nghymru , ac fe ddois ar draws safle we Clwb Golff Porth Llechog tu allan i Amlwch.Wrth edrych yn fanylach ar y linc ' The Course' , gwelais fod gan bob un o'r 18 twll enw Cymraeg! Dyma'r safle:

http://www.bullbaygc.co.uk/

Yn hoff iawn o enw'r twll olaf , sef 'Teg edrych'. 8)

Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Bol Cwrw » Gwe 04 Meh 2004 10:38 am

Mae yna enwau Cymraeg ar dyllau Clwb Golff Nefyn ym Mhorthdinllaen. Dyma Enwau'r tylla newydd, sydd ddim ar eu gwefan, ond mae'r enwau ar scorcard:
1:Pant y fuches
2:Borthwen
3:Allt Wlyb
4:Hirdir
5:Parciau
6:Gwynt Teg
7:Yr Eifl
8:Dyffryn
9:Lon Penrhyn Bach
10:Cae Gwynt
11:Odyn Galch
12:Cae Lon Fawr
13:Cae yr Urdd
14:Cwmistir
15: Abergeirch
16:Gwylwyr
17:Cwm Eithin
18:Golygfa

Dyma'r Wefan sy'n uniaith saesneg (bw) :drwg:
http://nefyn-golf-club.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Bol Cwrw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 187
Ymunwyd: Maw 17 Chw 2004 11:27 am

Postiogan Mali » Gwe 04 Meh 2004 9:28 pm

Helo Bolcwrw!
Diolch i ti am y rhestr o enwau'r tyllau ar y cwrs golff yn Nefyn. Da gweld fod 'na enwau Cymraeg yno hefyd.
Ia , safle Saesneg ydi'r un yn Porth Llechog hefyd :( - oni bai am enwau'r tyllau.
Hwyl,
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 48 gwestai