Tudalen 1 o 1

tafarn y llew du

PostioPostiwyd: Gwe 04 Meh 2004 12:18 pm
gan denzil dexter
oes rhywun wdi sylwi ar y sgrifen uwch drws tafarn y llew du yn aberystwyth? mae fel a ganlyn: 'yr hen llew du.' meddwl o'n i os oes rhaid treiglo y 'llew' i'w wneud yn 'yr hen lew du'?? :rolio: jyst wyndro! :?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Meh 2004 12:30 pm
gan joni
'Stalwm "Yr Hen Llew Du" fuodd enw'r lle - ond yn y 6/7 mlynedd diwethaf ma'r lle wedi newid i fod "Yr Hen Lew Du" jyst bod yr arwydd ddim wedi cael ei newid. Os ti'n edrych ar unrhw grysau rygbi/pel droed/hoci ma'r lle yn ei noddi neu unrhyw hysbyseb mewn papurau newydd ayyb "Yr Hen Lew Du" sy'n cael ei sgwennu. Ddim yn siwr pam nad yw'r arwydd wedi'i newid.

Gall fod yn waeth. Ma 'B;ack' Llanbadarn yn hysbysebu lawr yng Nghoedlan y Parc fel "Llew Ddu"

PostioPostiwyd: Gwe 04 Meh 2004 1:56 pm
gan nicdafis
Nid llew sy'n hen (a du) yw e, ond tafern o'r enw y Llew Du, sy'n hen. Dim angen treiglad, am wn i. Fyddet ti ddim yn treiglo enw person ar ôl "hen", na fyddet?

[wedi symud hyn i'r seiat cywir]

PostioPostiwyd: Gwe 04 Meh 2004 2:22 pm
gan Ray Diota
ti'm yn treiglo enw person ffwl stop.

Llew

PostioPostiwyd: Gwe 04 Meh 2004 2:41 pm
gan Clarice
Blac Leion Fach yw'r enw lleol "Cymraeg" ar y lle wrth gwrs...
:winc:

PostioPostiwyd: Gwe 04 Meh 2004 7:54 pm
gan Treforian
Nath hynna fy nharo i wrth wrando ar awdl HMG. Yr Hen Lew Du ddylia fo fod dw i'n credu.

PostioPostiwyd: Iau 17 Meh 2004 4:48 pm
gan ceribethlem
"Yr Hen Llew Du" oedd hi pan dan ofal Mans (dim gradd yn y Gymraeg), newidiodd hi i fod yn "Yr Hen Lew Du" pan ddaeth Iest Mawr (gradd yn y Gymraeg) i redeg y lle. Arwydd heb newid achos fod gormod o bethau arall 'da Iest i'w gwneud.