Tudalen 2 o 3

Gliniadur

PostioPostiwyd: Gwe 11 Meh 2004 3:48 pm
gan Bobby Clodge
Gliniadur -Dyna'r ffurf arferol!

Iesu Nicky Grist...

PostioPostiwyd: Gwe 11 Meh 2004 3:54 pm
gan Martin Llewelyn Williams
Dwi ddim yn credu fod Iesu Nicky Grist wedi darllen y Rhagair ar gyfer Geiriadur yr Academi!

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 10:28 am
gan Mr Gasyth
Rwyt ti wedi son am Rhagair Geiriadur yr Acedemi o'r blaen Martin, beth sydd mor wych amdano???

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 11:18 am
gan Ramirez
Glindop

Uwchlin

Glinbegwn

Coesiadur

Oesiadur?

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 11:53 am
gan Hogyn o Rachub
Dwi'n licio cynnig llabdob y Brenin Alltud.

Prynhawn Da, Aled!

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 1:59 pm
gan Martin Llewelyn Williams
Aled-dwi'n meddwl fod Rhagair Geiriadur yr Academi yn cynnwys sylwadau craff a threiddgar. Dim lol ramantaidd ynglyn a'r iaith Gymraeg-dim malu awyr-y gwir moel. Mae'n realistaidd iawn hefyd!
Efallai mai prif neges y Rhagair yw hyn: Ni all unrhyw iaith yn y byd modern anwybyddu'r ffaith mai Saesneg yw iaith mwya pwerus y byd (diolch i nifer o ffactorau megis yr hen Ymerodraeth Brydeinig, Yr Unol Daliaethau fel gwlad cyfoethoca a mwya dylanwadol y byd a.y.y.b.)
Mae yna wahaniaeth bwysig rhwng defnyddio geiriau Saesneg tra'n cyfathrebu yn y Gymraeg mewn ffordd ddiddorol a chlyfar ac yna defnyddio termau Saesneg mewn ffordd ddiflas a diog...Gor-ddweud?Na.
Mae Geiriadur yr Academi yn un cam positif yn y cyfeiriad iawn i alluogi ni i gyd i sylweddoli gwir gyfoeth yr heniaith. Wrth gwrs, byddai lawnsio Y Byd + cael sianel deledu analog Gymraeg go iawn(yn hytrach na slot ar Channel 4) yn gamau breision eraill...
Mae'r Rhagair yn cydnabod y ffaith fod y diwylliant Cymraeg yn uffernnol o fregus-ond bod yna obaith. Cyfoeth y Gymraeg-ehangu geirfa bersonnol...Dyna fy nehongliad i o'r Rhagair!

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 2:04 pm
gan S.W.
Maen debyg mae'r Unol Daleithiau sydd ar dylanwad fwyaf dros ddyfodol yr iaith Saesneg rwan a nid Lloegr/Prydain. Felly, gyda nifer gynyddol o trigolion yr UDA yn siarad Sbaeneg fel iaith gyntaf rwan ai mater o amser fydd hi cyn i eiriau Sbaeneg dreiddio i fewn i'r iaith Gymraeg?

Neu efallai ai dyma ddechreuad Esperanto? Gobeithio ddim.

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 2:12 pm
gan Jeni Wine
Cawslyd a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Gliniadur

Yn sicr hwna di'r un gorau. :D


Cytuno fo Cawslyd a SW a Bobby a pwy bynnag arall ddudodd Gliniadur. Mae o'n catchy ac yn amlwg mai cyfrifiadur ydi o ac mai ar dy lin mae o'n mynd. Hwn dwi'n ddefnyddio beth bynnag.

Annwyl S.W....

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 2:15 pm
gan Martin Llewelyn Williams
Diddorol-S.W. Cwestiwn diddorol- Faint o statws cyfreithiol a.y.y.b. sydd gan yr iaith Sbaeneg yn yr U.D.A? A yw'r pobl sydd yn siarad Sbaeneg yn yr Unol Daliaethau yn defnyddio ambell i air Saesneg tra'n cyfathrebu mewn Sbaeneg? Esperanto- a yw hyn yn anochel?

Gyda llaw...

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 2:19 pm
gan Martin Llewelyn Williams
Gyda llaw-(er mwyn dilyn y thema rhyngwladol/globyleiddio yma) mae'r Almaenwyr yn defnyddio y term laptop-efallai fod yna derm arbennig "Hochdeutsch" yn bodoli-ond tydw i erioed wedi clywed amdanno!