Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 2:20 pm
gan S.W.
Yn bersonol byddain gas gen i weld Esperanto'n dechrau eto. Ges i tafodaeth difyrish tra'n feddwl gyda ffrind yn ddiweddar a roedd o o'r farn byddai'n well ganddo weld Esperanto'n cael ei ddefnyddio'n swyddogol fel iaith yr Undeb Ewropeaidd nag Saesneg. Dwin bersonol yn meddwl byddai Esperanto yr un mor ddrwg a Seasneg, Ffrangeg neu unrhyw iaith arall yn cael mwy o bwysigrwydd nag ieithoedd eraill - byddain well gen i just dalu i gael popeth wedi eu cyfieuthu yn syth.

Yn yr UDA go brin fod gan Sbaeneg statws cydradd i'r Saesneg ar hyn o bryd, ond yn amlwg tra fydd y niferoedd yn cynyddu bydd mwy a mwy o bwysau i'r iaith gael mwy o statws. Mewn ardaloedd o'r 'deep south' does dim rheswm dros beidio cael Sbaeneg fel iaith Swyddogol o feddwl bod rhannau o'r wlad i fod yn Mexico beth bynag.

Diddorol...

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 2:38 pm
gan Martin Llewelyn Williams
Ia, S.W. Difyr iawn. Cefais sgwrs ddiddorol iawn gyda Sbaenwr o ganol Sbaen unwaith. Dywedodd ef fod yna wahaniaeth mawr rhwng Sbaeneg Sbaen (Castilleon?) a Sbaeneg Mecsico. A yw pobl Mecsico yn defnyddio mwy o eiriau Saesneg yn eu bywydau pob dydd na phobl Sbaen? Dim syniad. Beth yw'r gair Sbaeneg swyddogol am "laptop"? A yw iaith leiafrifol fel y Gymraeg yn fwy tebygol o ddyfeisio geiriau newydd achos bod yna fwy o ymdeimlad o ofn? Hynny yw-paronoia ynglyn a dyfodol y Gymraeg fel iaith ac nid rhyw fath o dafodiaith sydd yn perthyn i Saesneg?Cwestiwn -nid o angenrheidrwydd fy marn personnol. A oes yna air Wyddeleg am "laptop"? Dim clem. Dwi hefyd yn hoffi'r term gliniadur yn fawr iawn-faint o siopau cyfrifiadurol ar hyd a lled Cymru sydd gyda arwydd mawr "GLINIADURON"?Dim llawer, gwaetha'r modd...

PostioPostiwyd: Llun 14 Meh 2004 4:43 pm
gan Dylan
Gliniadur 'dw i yn ei ddweud bob tro. Hwnna 'di'r gorau o bell ffordd yn fy marn i.

PostioPostiwyd: Maw 15 Meh 2004 5:53 pm
gan aderynglas
'sgrin ar lin' ydy'r gair dwi wedi dysgu - dwi hoffi swn y gair (wel geirau) mas draw

PostioPostiwyd: Llun 21 Meh 2004 4:48 pm
gan Bethan517
Sgrin clun = laptop
Ffôn lôn = mobile phone
nodyn bodyn = text message

PostioPostiwyd: Llun 21 Meh 2004 6:06 pm
gan Barrar
Cytuno gyda ti Beth!!! :winc:

PostioPostiwyd: Maw 22 Meh 2004 12:06 pm
gan brenin alltud
Bethan517 a ddywedodd:Sgrin clun = laptop


Thigh-top? Diddorol!

PostioPostiwyd: Mer 30 Meh 2004 8:45 am
gan trafferth mewn tafarn
wi wedi clywed coliadur a gliniadur. felly falle'i fod e'n dibynnu ar ych tafodieth chi a dylen i, o ganlyniad, weud carffediadur. ond ma hynna tam bach o lond ceg!

PostioPostiwyd: Iau 01 Gor 2004 12:02 am
gan Nick Urse
'Cluniadur' fyddwn ni'n ddeud yma yn y Gaiman!!! :D
Pam treiglo a deud Gliniadur?? Ac mae o'n dechra efo C efyd fatha cyfrifiadur... a cath.... a cachu.... a compiwtar....
x

PostioPostiwyd: Gwe 09 Gor 2004 2:27 pm
gan Mr Gasyth
Nick Urse a ddywedodd:'Cluniadur' fyddwn ni'n ddeud yma yn y Gaiman!!! :D
Pam treiglo a deud Gliniadur?? Ac mae o'n dechra efo C efyd fatha cyfrifiadur... a cath.... a cachu.... a compiwtar....
x


Glin = lap
Clun = thigh neu hip

dau beth hollol (wel, eitha) gwahanol.

Ond hold on, pen-glin = 'end of thigh' ynteu 'end of lap'?