Tudalen 1 o 1

Llond bol!

PostioPostiwyd: Sul 04 Gor 2004 2:18 pm
gan Mandi Fach
Reit ta...os dwi'n tynnu pobl i'm mhen..tyff!....Pam fod pobl methu gwahaniaethu rhwng Pen Llyn a Phenllyn?....a hefyd "mae" a "mai"...mae o'n fy ngwylltio i'n racs! Dim Bedwyr Lewis Jones m'ohonof o bell ffordd - dwi'm yn trio bod yn hunangyfiawn...ond blydi hel...get a grip! Mi fysa parot yn gallu cael gradd yn y Gymraeg dyddia 'ma o edrych ar raddedigion heddiw...

PostioPostiwyd: Gwe 09 Gor 2004 2:21 pm
gan Mr Gasyth
Ma'r gwahaniaeth rhwng Pen Llyn a Phenllyn yn amlwg i bawb.

Mae un ohonyn nhw yn meddu ar rai o olygfeydd harddaf Cymru, yn gadarnle yr iaith Gymraeg, yn llawn o bobol 'y pethe', pobl glen, gwladaidd a chyfeillgar, yn fagwrfa i rhai o ffigyrau pwysicaf hanes y genedl Gymraeg ac yn ardal sydd wastad yn bleser ymweld a hi.

A'r llall ydi Pen Llyn.