Tudalen 1 o 1

Prize

PostioPostiwyd: Maw 20 Gor 2004 12:06 pm
gan eusebio
Gwobr fyddwn i'n ei ddweud ond rwyf yn gweld gwobor yn aml iawn ar safle wê BBC Newyddion.
Pa un sydd yn gywir?

PostioPostiwyd: Maw 20 Gor 2004 12:27 pm
gan Mr Gasyth
Gwobr

yn bendant. sortia nhw allan Eusebio!

PostioPostiwyd: Maw 20 Gor 2004 4:16 pm
gan Ray Diota
Gwobor :o :!: :?: :x Ffacin gwarth. :drwg:

PostioPostiwyd: Maw 20 Gor 2004 4:38 pm
gan Llefenni
Sowthwyr yn siarad dim sens di'r busenes 'gwobor' 'na, ddyle fod gen y Bîb well safone wir. :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 20 Gor 2004 4:44 pm
gan Hogyn o Rachub
Gwir, 'gwobr' yw'r sillafiad cywir/ffurfiol. Mae 'gwobor' yn nhafodiaith y de-orllewin, dw i'n credu. (oni'n meddwl am hynny wrth weld rwbath am Dai Jones Llanilar gynnar - ond ella yn yr achos hwnnw bod nhw'n defnyddio 'gwobor' ar bwrpas?)

PostioPostiwyd: Maw 20 Gor 2004 4:46 pm
gan joni
Nag yw e'n debyg i'r busnes "Pobol y Cwm" ma? "Pobl" dyle fe fod - shwrli?

Ond, rhaid cytuno fod sgwennu "Gwobor" ar y BBC yn warthus. Dumbing down yw be mae'r sais yn ei ddweud, ie?

PostioPostiwyd: Maw 20 Gor 2004 7:53 pm
gan Blewgast
Aye - gwarth pur!! 'Gwobor' myn yffach i! :ofn:

'Gwobr' siwr dduw!! :!:

PostioPostiwyd: Maw 20 Gor 2004 7:58 pm
gan Hogyn o Rachub
Oeddwn i'n meddwl efallai oherwydd bod Dai Jones yn dafodiaith-feistr o ryw fath a fyddai'n sbarduno'r fath o sillafu. Os ddim, mae'n warthus tu-hwnt. Disgwyliwn i ddim llawer gan y BBC, ond fyddai sillafu cywir yn ddechrau da.

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 4:01 pm
gan sian
Dw i'n credu ei fod e rywbeth i wneud â'r ffaith fod pobl - yn enwedig yn y De - yn cael trafferth gyda geiriau sy'n gorffen gyda chytsain + "r" neu "l" - felly maen nhw'n stwffio llafariad arall i mewn i'w wneud yn haws e.e. Eifyl, pobol, Pedyr - roedd pobl arfer dweud "Cennin Peter" (ynganiad Cymraeg) mae'n debyg.
Rwy bron yn siwr bod Williams Pantycelyn yn defnyddio "gwobor" - os felly, mae'n mynd nol yn bell iawn.
Hefyd, os dwi'n cofio'n iawn, rhyw fath o "b" feddal oedd ar ddiwedd "tarw" a "marw" slawer dydd - (tarbh a marbh mewn Gwyddeleg?) - ond mae honno wedi troi'n "w".
Difyr te?!

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 4:15 pm
gan Geraint
Wel ma rhywun yn y gorffennol wedi penderfynnu mae gwobr ydi'r ffordd iawn, er fod rhai pobl yn ynghanu'r gair fel gwobor. Does dim lot o rhesymeg tu ol i'r peth. Yr un ffordd ma William Morgan wedi 'gogneiddio' iaith safonnol Cymraeg, e.e. dewisodd cenllysg dros y cesair a oedd yn fersiwn William Salisbury.