Yr 'U' yn darfod amdani

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Iau 29 Gor 2004 1:02 pm

huwwaters a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai yn yr hen ddyddiau, oedd "y" yn cael ei ynganu fel "u" mwy, fel cefais fy nghywiro.

Nid "byth" ond "buth".


digon gwir.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan huwwaters » Iau 29 Gor 2004 5:38 pm

"hi" = y llythyren 'u', felly mae "ei" yn iawn.


Anghywir. Yn dy frawddeg:

Meddwl hyn ar ôl bod yn gwrando ar archifau sain yn ddiweddar, ac os gwrandwch chi ar bobl (Gogleddwyr) ryw chwe deg i saith deg mlynedd yn ôl, mi glywch chi fod yr 'u' yn lot cryfach - yn debyg i sut mae Hwntws yn dynwared Gogleddwyr yn ei dweud hi.


Popeth yn bold yn eiriau lluosog ac nid unigol, a nhw, pwy bynnag sy'n dweud, nid yr u.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Gwen » Iau 29 Gor 2004 6:32 pm

huwwaters a ddywedodd:
"hi" = y llythyren 'u', felly mae "ei" yn iawn.


Anghywir. Yn dy frawddeg:

Meddwl hyn ar ôl bod yn gwrando ar archifau sain yn ddiweddar, ac os gwrandwch chi ar bobl (Gogleddwyr) ryw chwe deg i saith deg mlynedd yn ôl, mi glywch chi fod yr 'u' yn lot cryfach - yn debyg i sut mae Hwntws yn dynwared Gogleddwyr yn ei dweud hi.


Popeth yn bold yn eiriau lluosog ac nid unigol, a nhw, pwy bynnag sy'n dweud, nid yr u.


Na'di, mae o'n gywir! Goddrych y frawddeg, neu'r cymal o leia, ydi'r 'Gogleddwyr' a'r gwrthrych ydi'r 'u'. Unigol ydi 'u', felly 'ei' sy'n gywir.

Paid a dadla hefo fi, washi - gen i radd dosbarth cynta yn y Gymraeg a dwi wrthi'n gwneud PhD!

:lol:
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 29 Gor 2004 6:39 pm

Ma'r ddynas yn gwybod ei stwff! Na ddadla ymhellach, Huw! :)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan huwwaters » Iau 29 Gor 2004 8:03 pm

Ti'n unai'n deud celwydd, wedi cael gradd trwy dwyllo neu'n feddw os ti'n deud fod:

Unigol ydi 'u', felly 'ei' sy'n gywir.


Unigol ydi 'ei'. Rhagenw personol unigol yw ei gan ddibynnu ar unai gair gwrywaidd neu benywaidd sy'n dilyn ti'n cael treiglad meddal neu llaes.
Trydydd person unigol.


Gyda 'eu'. Rhagenw personol lluosog. Dim treigliad.
Trydydd person lluosog.

Ma'r ffaith fod gen ti radd ddim yn dynodi dy fod yn gwybod popeth am y tetun. Ac oleiaf triaa gofio dy waith TASau/TGAU.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Gwen » Iau 29 Gor 2004 9:18 pm

Wel, sbia arni fel 'ma ta. Pa un sy'n gywir?

(i) ei dweud hi

(ii) eu dweud hi

Taswn i wedi bod isio cyfeiruo at ddwy lythyren (dyweder 'u' ac 'y'), mi fyswn i wedi dweud 'eu dweud nhw', ond nid ar unrhyw gyfri 'eu dweud hi'. Dydi hynny jyst ddim yn gywir.

Dyma'r frawddeg wreiddiol (efo dipyn o docio. Er gwybodaeth, enw benywaidd unigol ydi 'pobl' hefyd, nid enw lluosog): "yr 'u' (enw llythyren unigol) fel y maen nhw (lluosog) yn ei dweud hi (cyfeirio nôl at y llythyren 'u').

Nid rhagenw blaen ydi'r 'ei' yn y cyd-destun hwn, ond yn hytrach gwrthrych cyflenwol. Dydi o ddim yn rhan o faes llafur TASau/TGAU dwi'm yn meddwl, ond dydi hynny ddim yn dweud nad oes na ffasiwn beth yn bod, siwr. :rolio: .

Os ti dal ddim yn 'y nghoelio fi, gofyn i dy athrawon. Neu dechreua edefyn yn y seiat Gloywi Iaith. Dwi'm am fynd i mewn i'r peth eto. Dwi'm yn licio fflôntio fy ngwybodaeth ar y maes (na chyfaddef fy nghymwysterau). Mae o jyst yn gofyn am pis-têc :wps:
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan huwwaters » Iau 29 Gor 2004 9:26 pm

Dwi'n yn trio cymyd yr un pis-têc o gwbwl, ond dwishio pawb darllen y dyfyniad dilynol.



Meddwl hyn ar ôl bod yn gwrando ar archifau sain yn ddiweddar, ac os gwrandwch chi ar bobl (Gogleddwyr) ryw chwe deg i saith deg mlynedd yn ôl, mi glywch chi fod yr 'u' yn lot cryfach - yn debyg i sut mae Hwntws yn dynwared Gogleddwyr yn ei dweud hi.


Y frgament bras yw beth i ganolbwyntio ar.

yn debyg i sut mae Hwntws yn dynwared Gogleddwyr yn ei dweud hi

ma hwn yn golygu fod Hwntws yn dynwared y Gogleddwyr (lluosog) o'u dull nhw o ynganu. Y Gogleddwyr sy'n ynganu fel ma, a felly nhw sy'n dweud fel yna.

ma hwn yn gywir. yn debyg i sut mae Hwntws yn dynwared Gwen yn ei dweud hi.

Dwi'n meddwl ddyle chi ailystyried eich ateb.


Dwi'n cyfaddef fy mod yn anghywir gyda:

enw benywaidd unigol ydi 'pobl' hefyd


achos na collective noun ydio.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Gwen » Iau 29 Gor 2004 9:33 pm

Nawn ni symud ofyn am symud hwn i'r seiat Gloywi Iaith ta be? Y peth ydi, os nawn ni hynny, mi fydd holl ramadegwyr y maes i mewn yna, ond os mai dyna tisho, iawn gen i. Dwi'n deud eto, ti di cymysgu efo'r busnas rhagenwau blaen ma. Ar boen swnio'n ailadroddus, mi dduda i eto mai gwrthrych cyflenwol ydi o. Dwi'm yn iawn bob amser, ond mi ydw i tro'ma. Onest. Os tisho, mi dynnwn ni bob cyfieithydd ac ysgolhaig Cymraeg i mewn i'r ddadl, ond dwi'n dal wrth be ddudish i, ac yn y cyd-destun 'ei dweud hi' sy'n gywir.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwen » Iau 29 Gor 2004 9:41 pm

huwwaters a ddywedodd:ma hwn yn golygu fod Hwntws yn dynwared y Gogleddwyr (lluosog) o'u dull nhw o ynganu. Y Gogleddwyr sy'n ynganu fel ma, a felly nhw sy'n dweud fel yna.


Ond beth mae'r Gogleddwyr yn ei ddweud yw'r pwynt? Y llythyren 'u' wrth gwrs. Llythyren unigol. Enw unigol. Gan fod angen gwrthrych cyflenwol yn ail ran y frawddeg a bod angen i hwnnw gyfateb i'r gwrthrych gwreiddiol (sef 'y llythyren u') o ran rhif a pherson, 'ei' (a hwnnw'n 'ei' unigol, trydydd person) a ddefnyddir. Ti'n dallt be dwi'n drio'i ddeud? Dwi'n dallt be sgen ti, ond yn gweld lle ti'n cymysgu hefyd achos ti'n colli golwg ar wrthrych y ferf. Mae hyn yn amlwg am nad wyt yn cynnwys y gwrthrych o gwbl yn dy 'fragment'. Am y llythyren 'u' y mae'r drafodaeth, a dyna ydi gwrthrych y frawddeg. Brawddeg hir, dwi'n derbyn, ond brawddeg gywir yn ei hanfod 8) (heblaw ella bod 'sain' yn wrywaidd, a dwi bron yn siwr erbyn hyn ei fod o. Eto, dydi hyn ddim yn effeithio ar y ddadl sy rhyngot ti a fi yn fan hyn).
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan huwwaters » Iau 29 Gor 2004 9:52 pm

Ond mae'r ffaith bod chi'n cyfeirio at y luthyren "u" yn cael ei ddynodi gan y ddiweddiad "hi".

Meddwl hyn ar ôl bod yn gwrando ar archifau sain yn ddiweddar, ac os gwrandwch chi ar bobl (Gogleddwyr) ryw chwe deg i saith deg mlynedd yn ôl, mi glywch chi fod yr 'u' yn lot cryfach - yn debyg i sut mae Hwntws yn dynwared Gogleddwyr yn ei dweud hi.


Fyswn i'n disgwyl diweddiad o nhw, os na mwy na un peth sydd o dan sylw.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai