Dwi'm yn deud mod i'n iawn, a sgen i'm tystiolaeth wyddonol na dim byd felly, ond dwi'n meddwl fod y sain 'u' yn darfod amdani.
Meddwl hyn ar ôl bod yn gwrando ar archifau sain yn ddiweddar, ac os gwrandwch chi ar bobl (Gogleddwyr) ryw chwe deg i saith deg mlynedd yn ôl, mi glywch chi fod yr 'u' yn lot cryfach - yn debyg i sut mae Hwntws yn dynwared Gogleddwyr yn ei dweud hi. Mae mwy o ryw gymysgedd yn y sain erbyn hyn - nid 'i' fel sy gan y Deheuwyr, ond rhyw hint o 'e'. Nid 'e' fel y cyfyw chwaith. Ond dywedwch y sain yn uchel a sylwch ar y gwahaniaeth rhwng y ffordd rydach chi'n deud y llythyren ynghanol gair â'r ffordd egsajyreted gewch chi wrth rowlio'r tafod a gwneud swn 'u' go iawn.
Mae hyn yn gwneud synnwyr wrth feddwl sut y bu iddi farw allan yn y de. Ond peth diddorol arall i mi ydi sylwi dro ar ôl tro ei bod hi'n dal yn gryfach gan bobl y gogledd-ddwyrain. Y gogledd-ddwyrain fydd cadarnle ola y sain 'u', credwch chi fi. [ Hen bryd iddyn nhw wneud rhyw gyfraniad...].
[Ond does dim rhaid i chi gytuno hefo fi]