Gwen a ddywedodd:Ti'n iawn - yn anffodus. Yr 'i' Saesneg ydi o. Fi a fy 'e' . Dyna'r sain on i'n feddwl.
Enghraifft arall o sut ydan ni'n cael ei cyflyrru'n ddiwylliannol. Mae hyd yn oed y rhai sy'n falch o fod yn Gymry, yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol, ar lefel anymwybodol wedi penderfynu bod y sain naturiol, draddodiadol, yn "grinjllyd" ac yn ffafrio'r un Seisnig.
Dewch â'r "U" Gymreig yn ôl!
(Pawb, dim jyst fi, neu mi fydda i'n swnio fatha Cynan)
Ydi, mae o'n isymwybodol, ond nid y rheswm ydi ei fod o'n 'grinjllyd', dwi'm yn dallt o lle ti'n cal y syniad yma eniwe. Ydi 'll' yn grinjllyd felly? Ma jest yn digwyd yn isymwybodol, pan ma ne ddwy sain eithaf tebyg rwyt ti'n gyfarwydd a hwy yn cyfuno i mewn i un. Ma'n gallu digwydd mewn unrhwy iaith, o dan ddylanwad iaith arall neu beidio.
Ma'r sain 'u' hefyd yn gymharol anodd i'w ddweud, a gyda'r tafod yn nhop canol y ceg ma'n eitha pell o ble ma hi angen bod ar gyfer seiniau eraill sy'n golygu ei bod hi'n fwy cyfleus i ddweud y sain depycach i 'i'. Bosib mai dyma pam gollodd y deheuwyr yr 'u' yn y lle cynta, wniddim.